Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer
Cyfarwyddyd Ategol sy'n berthnasol i achosion lle bo'r Gymraeg i'w defnyddio ac sy'n deillio o Ogledd Cymru
Mae'r cyfarwyddyd isod yn berthnasol i achosion sy'n cael eu trosglwyddo neu'n cael eu traddodi o Lysoedd Ynadon yng Nghymru lle mae'n bosib, o ganlyniad i restru neu drefniadau eraill, y bydd yr achos yn cael ei roi ar brawf yng Nghaer neu mewn man arall y tu allan i Gymru.
Yn unol â'r Cyfarwyddyd Ymarfer a gyhoeddwyd gan yr Arglwydd Brif Ustus ym (1998) 1 WRL 1677, dylid clywed pob achos lle rhoddir tystiolaeth yn y Gymraeg, yng Nghymru, lle bynnag y bo hynny'n ymarferol. Os, am ryw rewm, nad oes modd clywed achos o'r fath a draddodwyd i dreial neu ar gyfer dedfryd neu a drosglwyddwyd o un o Lysoedd Ynadon Cymru, yng Nghymru, yna, rhaid cyfeirio'r achos at un o'r Barnwyr Llywyddol. Ni ellir cynnal gwrandawiad na threial achos o'r fath mewn llys y tu allan i Gymru heb ganiatâd penodol un o'r Barnwyr Llywyddol.
Rhiad sicrhau bod y Barnwr Llywyddol:
1. Yn cael gwybodaeth fanwl am yr achos
2. Yn cael gwybod i ba raddau y bwriedir defnyddio'r Gymraeg
3. Yn cael gwybod beth yw barn yr Erlyniad a'r Amddiffyniad ynghylch y gwrandawiad/treial a'r defnydd o'r Gymraeg
4. Enw'r Barnwr sydd am glywed yr achos.
Os caniateir clywed achos y tu allan i Gymru, gwneir hynny ar sail bod yr achos yn cael ei glywed gan y Barnwr a enwebwyd yn benodol ar gyfer yr achos hwnnw; ni chaiff yr un Barnwr arall glywed yr achos heb gyfeirio'r mater eto at un o'r Barnwyr Llywyddol.
Ac eithrio'r Barnwyr sydd ar restr gymeradwy Gweinyddwr y Gylchdaith ar gyfer clywed achosion yn y Gymraeg, ni chaiff yr un Barnwr glywed unrhyw achos lle defnyddir yr iaith Gymraeg, oni bai fod un o'r Barnwyr Llywyddol neu Farnwr Cyswllt yr iaith Gymraeg (y Barnwr D Roderick Evans CF) wedi rhoi caniatâd penodol.
Daw'r Cyfarwyddyd ategol hwn i rym ar unwaith ac mae'n berthnasol i unrhyw wrandawiadau neu dreialon a gynhelir ar ôl dyddiad y Cyfarwyddyd ategol hwn.
28 Chwefror 2000
<< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer
