Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer
Mewn achos ar gyfer trosedd y gellir ei brofi trwy dditiad yn unig, pan dybir y bydd yn debygol o fewn rheswm (er enghraifft, ar sail natur ac amgylchiadau'r trosedd neu'r hyn sy'n wybyddus am hanes, cymeriad a/neu bersonoliaeth y diffynnydd) y bydd angen, neu y gallai fod angen, tystiolaeth arbenigol o natur seiciatrig er mwyn gallu dwyn yr achos i ben yn effeithiol maes o law, rhaid ystyried bod hyn yn gyfrifoldeb i'r Twrneiod amddiffyn yn ogystal ag i'r awdurdod sy'n Erlyn:
a. dynodi mor gywir ag y bo modd, a hynny mor fuan ag y bo'n ymarferol bosibl yn ystod yr achos, y mater/materion y mae'n ofynnol i seiciatrydd a/neu arbenigwr cysylltiedig ymchwilio iddo/iddynt;
b. cymryd camau ar hynny i gyfarwyddo seiciatrydd a/neu arbenigwr cysylltiedig gyda golwg ar sicrhau barn ysgrifenedig (hy. adroddiad) ar y cyfryw fater neu faterion.
Dylid cyflwyno copïau o unrhyw adroddiad gan seiciatrydd a/neu arbenigwr cysylltiedig, a geir gan yr awdurdod sy'n Erlyn yn ystod unrhyw achos y mae Paragraff 1 yn berthnasol iddo, cyn pen 48 awr o'u derbyn, oni bai fod yna reswm da i'r gwrthwyneb, i'r holl bartïon eraill yn yr achos ac i'r Llys.
Hynny yw, i Lys y Goron neu - os ceir adroddiad neu adroddiadau o'r fath cyn traddodi neu drosglwyddo - i Glerc Ynadon y Llys Ynadon perthnasol. Dylai'r Clerc sicrhau, wedyn, bod o leiaf dau gopi o'r cyfryw adroddiad yn cael eu cynnwys yn y papurau traddodi/trosglwyddo a gaiff eu trosglwyddo i Lys y Goron.
Ymarfer GPCh mewn achosion ar gyfer troseddau nas gellir eu profi ond trwy dditiad
Yn ystod y GPCh cyntaf yn Llys y Goron mewn achos ar gyfer trosedd nas gellir ei brofi ond trwy dditiad, bydd disgwyl i'r partïon hysbysu'r Llys o'r materion canlynol:-
a) p'un ai oes unrhyw faterion sy'n golygu tystiolaeth seiciatryddol neu dystiolaeth seiciatryddol ei natur ac - os oes - beth yw'r materion hynny, a oes unrhyw adroddiad(au) sy'n ymdrin â'r materion hynny wedi dod i law eto ai peidio, a yw'r materion hynny'n debyg o gael eu gwrthwynebu ai peidio, maes (meysydd) a maint y gwrthwynebiad a ragdybir, nifer y seiciatryddion a/neu'r arbenigwyr cysylltiedig a fydd, neu sydd wedi, cyflwyno'r adroddiadau, y dyddiad sydd wedi'i nodi gan bob seiciatrydd a/neu arbenigwr cysylltiedig o'r fath fel y dyddiad cynharaf y bydd ei adroddiad neu adroddiadau terfynol wedi'u cwblhau (os nad ydynt wedi'u cwblhau'n barod), ac a oes unrhyw anhawster neu broblem bosibl a allai ei rwystro ef neu hi rhag gallu darparu'r adroddiad(au) terfynol erbyn y dyddiad hwnnw;
b) y rhesymau, pan ddywedir bod yr achos gan unrhyw barti yn ymwneud â mater neu faterion sy'n rhaid i seiciatrydd a/neu arbenigwr cysylltiedig ymchwilio iddynt a chyflwyno adroddiad arnynt, pam nad oes camau wedi'u cymryd hyd yma i sicrhau adroddiad neu adroddiadau perthnasol; bydd disgwyl i'r parti dan sylw, dan amgylchiadau o'r fath, gyflwyno adroddiad i'r Llys, a hwnnw mor gywir ag y bo modd, o natur y mater neu'r materion dan sylw, ac i hysbysu'r Llys o bob sail y dibynnir arni i geisio ac i gyfiawnhau cyfarwyddo seiciatrydd a/neu arbenigwr cysylltiedig;
c) y rhesymau y mae'r awdurdod sy'n Erlyn yn dibynnu arnynt dros beidio â bod eto wedi cyflwyno copïau i'r Llys, neu i unrhyw barti neu bartïon eraill, o unrhyw adroddiad gan seiciatrydd a/neu arbenigwr cysylltiedig sydd eisoes wedi dod i law:
d) o safbwynt unrhyw adroddiad gan seiciatrydd a/neu arbenigwr cysylltiedig sydd eisoes wedi'i dderbyn gan yr amddiffyniad, a oes bwriad i ddefnyddio unrhyw ganfyddiad neu farn a geir ynddo fel tystiolaeth yn yr achos (ar wahân i wneud hynny mewn perthynas â dedfryd);
e) y rhesymau pam nad yw adroddiad neu adroddiadau ar gael eto gan seiciatrydd a/neu arbenigwr cysylltiedig sydd wedi derbyn cyfarwyddiadau.
Bydd y darpariaethau uchod mewn grym hefyd yng nghyswllt achos ar gyfer trosedd "neillffordd" a draddodir, a anfonir neu a drosglwyddir i dreial neu a draddodir i ddedfryd, ond mewn unrhyw achos o'r fath, nid oes raid gweithredu cyfrifoldebau'r Twrneiod amddiffyn a'r awdurdod sy'n Erlyn, y naill a'r llall, i ddynodi'r mater neu'r materion perthnasol ac i gymryd camau i gyfarwyddo seiciatrydd a/neu arbenigwr cysylltiedig [hy Paragraff 1a) ac 1b)] cyn penderfynu ynghylch dull y treial neu cyn i'r diffynnydd bledio'n euog i gyflawni'r trosedd yn y Llys Ynadon.
Pan gollfernir diffynnydd am droseddu yn Llys y Goron, ac nad oes adroddiad nac adroddiad cyfredol gan seiciatrydd a/neu arbenigwr cysylltiedig yn bodoli yng nghyswllt y diffynnydd hwnnw, a'i bod yn ymddangos i'r Llys y byddai'n angenrheidiol neu'n ddymunol cael adroddiad neu adroddiadau o'r fath cyn mynd ymlaen i ddedfrydu'r diffynnydd, dylai'r Llys sicrhau, ar ôl gwrando a rhoi ystyriaeth i unrhyw honiadau a wnaed gan, neu ar ran, y diffynnydd ac (os yn briodol) gan yr Erlyniad:
a) y pennir unrhyw fater y gofynnir am adroddiad neu adroddiadau yn ei gylch mor fanwl ag y bo modd;
b) y rhoddir manylion y trosedd neu'r troseddau y mae'r diffynnydd wedi'i gollfarnu mewn perthynas â hwynt i'r cyfryw seiciatrydd a/neu arbenigwr cysylltiedig a fydd yn darparu'r adroddiad, ynghyd â chrynodeb o'r dystiolaeth, y copi diweddaraf o hanes blaenorol y diffynnydd, copïau o unrhyw adroddiadau sydd ar gael ac adroddiadau perthnasol (gan gynnwys adroddiadau cyn-dedfrydu) a luniwyd mewn unrhyw achos troseddol blaenorol, ac unrhyw wybodaeth neu ddeunydd arall o'r fath (gan gynnwys datganiadau tyst, trawsgrifiadau o gyfweliad ac unrhyw ddeunydd "nas defnyddiwyd") a allai fod yn briodol ym marn y Llys neu'r partïon.
Dylid darllen y Protocol ochr yn ochr â chynnwys yr Atodiad perthnasol er mwyn cael esboniad, eglurhad a chyfarwyddyd pellach.
Yr Anrhydeddus Meistr Ustus Thomas
Yr Anrhydeddus Meistr Ustus Richards
Dyddiad: 19 Mai 2000
Dychwelwch i Dudalen Gartref Y Cyfarwyddiadau Ymarfer
Gwnaethpwyd y protocol mewn ymgais i ymdrin â phroblemau a brofwyd ar y Gylchdaith mewn achosion lle ceir materion sy'n ymwneud â thystiolaeth seiciatryddion ac arbenigwyr cysylltiedig (seicolegwyr, er enghraifft). Profwyd anawsterau am nifer o resymau ond dau o'r achosion sylfaenol, yn gyffredinol, yw na sicrheir tystiolaeth o'r fath, na'i rhoi at ei gilydd fel ei bod yn barod, mor gyflym ag y dylid: oherwydd hynny, bu adegau pan nad oedd dewis gan y Llys ond gohirio achosion a restrwyd ar gyfer treial. Mae camau o'r fath, wrth reswm, yn golygu canlyniadau anffafriol ac annymunol o fath (er enghraifft, ansicrwydd ac oedi i ddiffynyddion; anghyfleustra i'r partïon, i dystion ac i'r Llys; gwastraffu gwariant cyhoeddus) y dylai pob system cyfiawnder troseddol wneud ei gorau i'w hatal a'u dileu.
Oherwydd y sefyllfa anfoddhaol a oedd yn effeithio ar nifer o achosion oedd yn cynnwys tystiolaeth seiciatrig, sefydlwyd Gweithgor ym mis Hydref y llynedd ar anogaeth ein Barnwyr Llywyddol ar y pryd (Mr Ustus Maurice Kay a Mr Ustus Thomas) er mwyn ymchwilio i'r sefyllfa a dyfeisio protocol, os oedd modd, i reoli achosion lle mae materion seiciatrig a materion cysylltiedig yn codi. Roedd y Gweithgor yn cynnwys yr aelodau a ganlyn: Cofiadur Caerdydd, Mr Leighton Davies CF, Mr David Aubrey CF, Mr Chris Lewis (Gwasanaeth Erlyn y Goron), Mr Roy Morgan (Twrnai), Mr Geraint Walters (o Far Abertawe), Dr Tegwyn Williams (seiciatrydd fforensig ymgynghorol yng Nghlinig Caswell, Pen-y-bont ar Ogwr), Dr David Huckle (seiciatrydd fforensig ymgynghorol yn Llanarth Court, Rhaglan), a Dr Trevor Scarle (yr Uwch Swyddog Meddygol yng Ngharchar EM, Caerdydd). Cyfarfu'r Gweithgor ddwy waith (yn Rhagfyr y llynedd a Mawrth eleni). Daeth amrywiaeth eang o faterion i'r amlwg yn y drafodaeth, a chafwyd dadlau agored ac adeiladol yn eu cylch.
Bwriedir i'r protocol ddod i rym yn gyntaf yn holl Lysoedd y Goron yn Ne Cymru (Hwlffordd, Caerfyrddin, Abertawe, Merthyr Tudful, Caerdydd a Chasnewydd) ond rhoddir ystyriaeth yn y dyfodol agos i'w fabwysiadu gan holl Lysoedd y Goron eraill ar y Gylchdaith. Amcan sylfaenol darpariaethau'r protocol yw symleiddio a rheoleiddio hynt achosion sy'n cynnwys materion seiciatrig mewn modd mor effeithiol â phosibl; osgoi oedi diangen wrth gael tystiolaeth gan seiciatryddion ac arbenigwyr cysylltiedig yw'r prif amcan. Mae'n bwysig pwysleisio nad oes dim bwriad o gwbl yn y darpariaethau i un ai cyfyngu ar hawl unrhyw barti i gyfarwyddo seiciatrydd ac/neu arbenigwr cysylltiedig priodol o'i ddewis mewn unrhyw achos penodol neu gyfyngu ar hawl unrhyw barti i gyfyngu tystiolaeth seiciatrig ac/neu dystiolaeth gysylltiedig a fo'n berthnasol. Wedi dweud hynny, gofynnir i'r holl ymarferwyr gadw'r pwyntiau canlynol mewn cof:-
a) Nifer bach o seiciatryddion fforensig ymgynghorol sy'n ymarfer yn 'nalgylch' y Gylchdaith. Maent wedi'u gorlwytho gan waith, ac mae'n hollbwysig lleihau'r pwysau sydd arnynt, os oes modd, fel y gallant ymdrin yn gyflymach â'r achosion hynny sy'n ymwneud â throseddau difrifol a materion seiciatrig cymhleth neu ddadleuol. Mae'r ymgynghorwyr eu hunain o'r farn bod llawer iawn o'r achosion troseddol y maent yn cael eu cyfarwyddo ynddynt ar hyn o bryd yn ymwneud â materion seiciatrig sy'n annadleuol ac sy'n rhai y mae seiciatryddion cyffredinol yr un mor alluog a chymwys i baratoi'r adroddiadau angenrheidiol arnynt. Yn wir, tynnwyd sylw at y ffaith bod gan lawer o ddiffynyddion mewn achosion o'r fath hanes yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o gysylltiad yn awr neu yn y gorffennol ag un neu ragor o seiciatryddion cyffredinol ac, mewn achosion felly, y bydd yn fwy manteisiol a buddiol cael adroddiad gan seiciatryddion o'r fath yn hytrach na chyfarwyddo seiciatrydd fforensig nad oes ganddo unrhyw wybodaeth flaenorol, yn ôl pob tebyg, am y diffynnydd dan sylw.
b) Gan hynny, pan geisir sicrhau tystiolaeth seiciatrig mewn unrhyw achos, anogir cynrychiolwyr cyfreithiol y diffynnydd i ystyried yn ofalus i ba ddiben y maent yn ceisio'r dystiolaeth honno ac, ar ôl gwneud y cyfryw ymholiadau a welant orau, i'w sicrhau eu hunain bod angen cyfarwyddo seiciatrydd fforensig ymgynghorol yn hytrach na seiciatrydd cyffredinol.
c) Mae Cofrestr i'w chyhoeddi ac arni enwau a manylion cysylltu'r holl seiciatryddion cyffredinol yn y dalgylch sy'n barod i dderbyn cyfarwyddiadau a darparu adroddiadau. Bydd hefyd yn nodi, os yw'n briodol, a yw ef neu hi'n arbenigo wrth roi diagnosis a thrin unrhyw ffurf benodol ar salwch, anhwylder neu anabledd meddwl. Caiff y Gofrestr ei diweddaru a'i hadolygu'n rheolaidd gan bennaeth y seiciatryddion fforensig ymgynghorol yng Nghlinig Caswell ac yn Llanarth Court, a bydd copïau ohoni ar gael oddi wrth Swyddfeydd Llysoedd y Goron ar y Gylchdaith ac oddi wrth Swyddfa Gweinyddwr y Gylchdaith yng Nghaerdydd.
d) Mewn rhai achosion lle mae'n amlwg iddi fod yn angenrheidiol i barti gyfarwyddo seiciatrydd fforensig ymgynghorol, achoswyd oedi gormodol pan oedd y parti hwnnw wedi methu neu wedi bod yn amharod i chwilio ymhellach ar ôl darganfod nad oedd yr un o'r ymgynghorwyr sy'n ymarfer o fewn y dalgylch yn gallu derbyn cyfarwyddiadau, am ryw reswm neu'i gilydd, neu nad oeddent yn gallu adrodd o fewn cyfnod rhesymol. Mewn amgylchiadau o'r fath dylai ymarferwyr fod yn barod i gyfarwyddo ymgynghorwyr sydd ar gael sy'n ymarfer y tu allan i'r dalgylch, ac i'r diben hwnnw dylent ddod yn gyfarwydd ag enwau a manylion cysylltu ymgynghorwyr o'r fath. I'w cynorthwyo, bydd adran yn y Gofrestr y cyfeirir ati uchod ac ynddi enwau a manylion cysylltu nid yn unig y seiciatryddion fforensig ymgynghorol sy'n ymarfer o fewn y dalgylch ond hefyd nifer o'r rhai sy'n ymarfer yng Ngorllewin Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Siroedd y Gororau yn Lloegr.
Mae sicrhau arian i gyfarwyddo seiciatrydd ac/neu arbenigwr cysylltiedig yn gynnar mewn achosion sy'n derbyn cymorth cyfreithiol yn gallu peri oedi gormodol. Fodd bynnag, gellir lleihau'r oedi'n aml drwy gael Gorchymyn Cymorth Cyfreithiol 'trwodd' yn y Llys Ynadon a dylai ymarferwyr sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r darpariaethau statudol a'r ymarfer mewn perthynas â gorchmynion o'r fath. Yn ogystal â hynny, dylent gael manylion oddi wrth Swyddfeydd Llysoedd y Goron am y trefniant lle y gall Llys y Goron, mewn rhai amgylchiadau, awdurdodi gwariant yn uniongyrchol i gael adroddiadau a gwneud taliadau ar gyfrif i arbenigwr heb yr angen i wneud cais am awdurdod o flaen llaw gan bwyllgor ardal yn unol â Rheol 54 o Reoliadau (Cyffredinol) Cymorth Cyfreithiol mewn Achosion Troseddol a Gofal 1989.
Gwerthfawrogir na fydd darpariaethau'r protocol yn ddigon o bosibl i ymorol am bopeth a all ddigwydd, a dylid cydnabod mai amcan rhai ohonynt yw symbylu ystyriaeth i gyfarwyddiadau pellach y gallai'r Llys eu gorchymyn (er enghraifft, cydgyfarwyddo un arbenigwr gan y partïon ar ôl i natur a graddau'r mater ddod yn weddol glir), ac amlygu rhai o'r 'anawsterau' sylfaenol wrth gael tystiolaeth seiciatrig a ganfuwyd gan y Gweithgor. Dylid crybwyll dau anhawster yn arbennig:
a) Caiff seiciatryddion eu rhwystro a'u harafu'n aml wrth baratoi adroddiadau am fod Ymarferwyr Cyffredinol yn methu neu'n gwrthod rhyddhau neu ddarparu copïau o gofnodion meddygol y diffynnydd. Dylid dweud wrth y Llys am fodolaeth sefyllfa o'r fath ar y cyfle cyntaf fel y gellir rhoi ystyriaeth i wneud gorchymyn neu godi gwys i gymell eu dangos. Fodd bynnag, fel arfer ni ddylai absenoldeb cofnodion o'r fath atal seiciatrydd rhag gallu paratoi adroddiad rhagarweiniol, o leiaf.
b) Mae seiciatryddion a gyfarwyddir ar ran yr awdurdod erlyn yn wynebu'r broblem ar adegau o wrthodiad gan ddiffynyddion i gael eu cyfweld. Weithiau bydd diffynyddion o'r fath yn dweud bod eu gwrthodiad yn seiliedig ar gyngor cyfreithiol y maent wedi'i dderbyn. Dylai twrneiod yr amddiffyniad hysbysu'r erlyniad o'r sefyllfa, ym mhob achos lle maent yn rhoi cyngor o'r fath i ddiffynnydd, neu lle cawsant wybod gan ddiffynnydd na fydd yn cydsynio i gael ei gyfweld, beth bynnag yw'r cyngor a roddant. Wedyn dylai'r erlyniad ystyried a ydynt yn gallu rhoi ymrwymiad i'r amddiffyniad na fydd dim a ddywedir gan y diffynnydd mewn cyfweliad â'r seiciatryddion ar faterion anfeddygol yn cael ei ddyfynnu mewn tystiolaeth. Os na fydd rhoi ymrwymiad o'r fath yn fodd i ddod o'r caethgyfle, neu os nad yw'r erlyniad yn barod i roi ymrwymiad o'r fath, dylid dweud wrth y Llys am y sefyllfa ar y cyfle cyntaf fel y gellir penderfynu ar ba bynnag gamau y credir eu bod yn briodol er mwyn gallu symud ymlaen. Unwaith eto, fodd bynnag, dylid cadw mewn cof na ddylai gwrthodiad gan ddiffynnydd i gael ei gyfweld atal seiciatrydd fel arfer rhag gallu paratoi adroddiad ar sail deunydd arall - gan gynnwys cyfweliadau'r diffynnydd â'r heddlu a gofnodwyd ar dâp neu dâp fideo - a ddarperir neu y gellir eu darparu i'r seiciatrydd.
Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer
