Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer
Apeliadau o Lysoedd Ynadon yn Erbyn Euogfarn
Bydd y cyfarwyddiadau canlynol yn berthnasol i bob apêl o Lysoedd Ynadon yn erbyn euogfarn a wrandewir yng Nghasnewydd, Caerdydd, Abertawe, Caerfyrddin, Merthyr Tudful a Hwlffordd.
1. Bydd Llys y Goron, unwaith y bydd wedi derbyn rhybudd o apêl yn erbyn euogfarn, yn anfon copi o'r rhybudd o apêl dros y ffacs neu drwy gyswllt cyfrifiadur uniongyrchol i Wasanaeth Erlyn y Goron.
2. Cyn gynted â phosib, a beth bynnag cyn pen dau ddiwrnod gwaith ar ôl anfon copi o'r rhybudd o apêl gan Llys y Goron, bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn hysbysu Swyddog Cyswllt Llys y Goron ar gyfer yr ardal heddlu berthnasol o enwau'r tystion yn yr achos. Bydd rhestr y tystion yn nodi ar wahân (1) pwy roddodd dystiolaeth lafar yn y Llys Ynadon a (2) pwy gyflwynodd dystiolaeth i'w darllen.
3. Cyn gynted â phosib, a beth bynnag cyn pen pedwar diwrnod gwaith ar ôl derbyn y rhestr tystion, bydd yr ymholiadau angenrheidiol i ganfod a yw'r tystion ar gael yn cael eu cwblhau gan yr ardal heddlu berthnasol.
4. Cyn rhestru'r achos, bydd Llys y Goron yn cysylltu â Swyddog Cyswllt Llys y Goron yn yr ardal heddlu berthnasol i ganfod a yw'r tystion yn yr achos ar gael ai peidio. Mewn achosion lle bo'r diffynnydd ar fechnïaeth, rhoddir rhybudd o saith diwrnod cyn i'r achos gael ei restru. Mewn achosion lle bo'r diffynnydd dan gaethiwed, rhoddir rhybudd o saith diwrnod, pryd bynnag y bydd hynny'n bosib.
5. Gall y Barnwr Preswyl neu ei ddirprwy leihau unrhyw un o'r cyfyngiadau amser mewn achos lle bo angen brys.
Yr Anrh. Meistr Ustus Thomas
Yr Anrh. Meistr Ustus Richards
Mai 2001
< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer
