Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer
Trosglwyddo Achosion o Gylchdaith Gogledd Lloegr i Gylchdaith Cymru a Chaer
Mae Barnwyr Llywyddol a Gweinyddwyr Cylchdaith Cylchdaith Cymru a Chaer a Chylchdaith Gogledd Lloegr wedi cymeradwyo, yn unol â pharagraff 31 (b) Cyfarwyddyd Ymarfer (Achosion Troseddol: Cyfnerthiad) [2002] 1 WLR 2870, y trefniadau cyffredinol canlynol ar gyfer trosglwyddo achosion o Gylchdaith Gogledd Lloegr i Gylchdaith Cymru a Chaer:
1. Gellir trosglwyddo achosion sy'n tarddu o Ardaloedd Sesiynol Stockport i'w clywed yn Llys y Goron Knutsford, cyn belled ag y bônt yn achosion Dosbarth 4 nad ydynt angen cyswllt fideo.
2. Cynhelir Gwrandawiadau Pledio a Chyfarwyddo ar Gylchdaith Gogledd Lloegr a phennir dyddiadau'r treialon yn y gwrandawiadau hynny. Bydd swyddfa restru Caer yn cynnig amrywiaeth o ddyddiadau treial sydd ar gael i Gylchdaith Gogledd Lloegr / Manceinion cyn y Gwrandawiadau Pledio a Chyfarwyddo.
3. Unwaith y bydd dyddiad y treial wedi'i bennu, trosglwyddir yr achos i Lys y Goron Knutsford a Chylchdaith Cymru a Chaer fydd yn ysgwyddo'r holl waith o reoli'r achos ac unrhyw waith yn dilyn y treial.
Mr Ustus Pitchford
27 Ion 2004
Mr Ustus Leveson
27 Ion 2004
<< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer
