Lwfansau i Reithwyr
Gall Rheithwyr hawlio tri math o lwfans gan y llys pan yn gwasanaethu ar reithgor:
- teithio
- cynhaliaeth
- colled ariannol
Mae’r cyfraddau sy’n daladwy i reithwyr wedi’u nodi ar dalen lwfansau (PDF) a anfonwyd atoch os ydych wedi’ch gwysio ar gyfer gwasanaeth rheithgor
Gall y lwfans colled ariannol gyflenwi am:
- goll enillion neu fudd-daliadau
- ffioedd a dalwyd i ofalwyr neu warchodwyr plant
- neu daliadau eraill yr ydych wedi gorfod eu gwneud o ganlyniad i’r gwasanaeth rheithgor.
Dylid darparu derbynebau fel prawf bod taliad wedi’i wneud ar gyfer yr hawliadau hyn. Os ydych yn ansicr o’r hyn sy’n dderbyniol, gofynnwch i'r llys lle fyddwch yn gwneud eich gwasanaeth rheithgor.
Os nad ydych wedi mynd dros yr uchafswm dyddiol y gellir ei hawlio, gallwch hawlio am fwy nag un math o golled ariannol. Er enghraifft, os yr oeddech yn hawlio am goll enillion a gofal plant, mae’n rhaid i gyfanswm y ddau fod yn is na’r uchafswm. Os yw eich hawliad yn fwy na hyn, dim ond yr uchafswm y gellir ei dalu.
Mae’n rhaid gwneud y taliadau i chi fel rheithiwr, ac ni wneir taliadau i drydydd parti fel cyflogwyr, teulu neu ffrindiau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglyn â lwfansau, edrychwch ar ein cwestiynau a ofynnir yn aml neu siaradwch â’r Rheolwr Rheithgor yn y llys lle fyddwch yn gwneud eich gwasanaeth rheithgor.
