Tîm Trethu Cenedlaethol
Asesu hawliadau costau dewisol yn Llys y Goron
Sefydlwyd y Tîm Pennu Costau Cenedlaethol ym mis Mehefin 1998. Y tîm sy'n penderfynu ar hawliadau dewisol am gostau yn Llysoedd y Goron sy'n deillio o Orchmynion Cynrychiolaeth o dan Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999, gorchmynion am gostau allan o gronfeydd canolog o dan Ddeddf Erlyniad Troseddau 1985, a gorchmynion am gostau rhwng partïon a wneir o dan Reolau Gweithdrefnau Troseddol 2005.
Mae mwyafrif helaeth y gwaith a wneir gan y Tîm Pennu Costau Cenedlaethol yn deillio o Orchmynion Cynrychiolaeth. Pan ffurfiwyd y tîm yn 1998 roedd ei faich gwaith oddeutu 20,000 o hawliadau y flwyddyn. Yn ystod 1998 - 1999 ymgymerodd y tîm â'r cyfrifoldeb am bob hawliad ex post facto (dewisol) yr oedd Llys y Goron yn delio â nhw cyn hynny. Cynyddodd y baich gwaith i 80,000 o hawliadau'r flwyddyn o ganlyniad. Mae'r derbyniadau blynyddol ar hyn o bryd oddeutu 96,000.
Cyfrifoldeb y Cyfarwyddwr Pennu Costau Cenedlaethol yw materion gweithredol o ddydd i ddydd ac mae'n adrodd i Reolwr Ardal Llys y Goron Llundain a Chyfarwyddwr Rhanbarthol Llundain.
Os oes gennych ymholiadau cyffredinol neu ymholiadau sy'n ymwneud ag achosion cysylltwch â swyddfa leol y Tîm Pennu Costau Cenedlaethol fel y rhestrir ar waelod y dudalen hon
Y Cyfarwyddwr Pennu Costau Cenedlaethol
43 Bedford Square
Llundain
WC1B 3DP
Ffôn: 07710 347 085 Ffacs: 01737 271996
(Dim ar gyfer ymholiadau cyffredinol nac ymholiadau sy'n ymwneud ag achosion)
Bwrdd Rheoli'r Tîm Pennu Costau Cenedlaethol
15 Quay Street
Manceinion
M60 9FD
Ffôn: 0161 833 1004 est 273 Ffacs: 0161 839 9608
Swyddog Gwasanaeth Cwsmeriaid y Tîm Pennu Costau Cenedlaethol
d/o Y Tîm Pennu Costau Cenedlaethol
Rhanbarth Birmingham
3ydd llawr
Temple Court
35 Bull Street
Birmingham
B4 6LG
Ffôn: 0121 681 3261 Ffacs: 0121 681 3270
Mae tua 120 o staff yn y Tîm Pennu Costau Cenedlaethol wedi'u rhannu'n rheolwyr, swyddogion pennu costau a staff gweinyddol. Caiff pob rhanbarth ei reoli gan Reolwr Pennu Costau Rhanbarthol. Mae'r strwythur rhanbarthol presennol fel a ganlyn:
Birmingham
(Mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Caerdydd
Caerwynt
(Mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Doncaster
(Mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Llundain
(Mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Manceinion
(Mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
