Lwfansau dan Ran V Rheoliadau Costau mewn Achosion Troseddol (Cyffredinol) 1986
Cyhoeddwyd gan yr Is-adran Gwasanaethau Cyfreithiol Cyhoeddus, Adran Materion Cyfansoddiadol Mehefin 2005
- Adran 1 – Lwfansau cyfredol sy'n daladwy dan Ran V Rheoliadau Costau mewn Achosion Troseddol (Cyffredinol) 1986
- Adran 2 – Cyfarwyddyd ar gyfer Swyddogion Costau/Pennu wrth asesu lwfansau Tystion Arbenigol a lwfansau eraill
- Mwy o wybodaeth
Adran 1 – Lwfansau cyfredol sy'n daladwy dan Ran V Rheoliadau Costau mewn Achosion Troseddol (Cyffredinol) 1986
Mae'r wybodaeth yn yr adran hon yn ymwneud â'r lwfansau cyfredol sy'n daladwy dan Ran V Rheoliadau Costau mewn Achosion Troseddol (Cyffredinol) 1986.
Yr uchafsymiau a'r lwfansau a ddangosir yw'r rhai sydd mewn grym adeg cyhoeddi. Rhoddir dyddiad eu cyflwyno. Caiff y ffigurau eu diweddaru o dro i dro wrth i gyfraddau newydd gael eu cyhoeddi.
Gweler hefyd y Canllaw i Lwfansau (Mawrth 2007) (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
- Rheoliad 18:
Lwfans colled ariannol tystion cyffredin a phobl eraill
| Cyfnod o absenoldeb | Uchafswm a ddaeth i rym ar 1.6.2005 |
| Heb fod dros 4 awr | £33.50 |
| Dros 4 awr | £67.00 |
- Rheoliad 18:
Lwfans cynhaliaeth tystion cyffredin a phobl eraill
| Cyfnod o absenoldeb | Uchafswm a ddaeth i rym ar 1.8.2001 |
| Heb fod dros 5 awr | £2.25 |
| Dros 5 awr ond heb fod dros 10 awr | £4.50 |
| Dros 10 awr | £9.75 |
| Gwesty - canol dinasoedd Llundain, Birmingham, Manceinion, Leeds, Lerpwl neu Newcastle Upon Tyne |
£95.00 |
| Dros nos (yn rhywle arall) |
£65.00 £25.00 yn unig os gyda theulu neu ffrindiau, mewn grym er 1.6.2005 |
- Rheoliad 19:
Lwfansau tystion proffesiynol
(a) Lwfans tystion proffesiynol lle na chaiff ffioedd locwm eu hawlio
| Cyfnod o absenoldeb | Uchafswm a ddaeth i rym ar 1.8.2001 |
| Heb fod dros 2 awr | £83.50 |
| Dros 2 awr ond heb fod dros 4 awr | £117.00 |
| Dros 4 awr ond heb fod dros 6 awr | £174.00 |
| Dros 6 awr | £234.00 |
(b) Lwfans tystion proffesiynol lle caiff ffioedd locwm eu hawlio
| Cyfnod o absenoldeb | Uchafswm a ddaeth i rym ar 6.5.2003 |
| Heb fod dros 2 awr | £89.00 |
| Dros 2 awr ond heb fod dros 4 awr | £125.00 |
| Dros 4 awr | £250.00 |
- Rheoliad 20:
Lwfansau tystion arbenigol a chyfieithwyr ayb
Yn ôl disgresiwn (gweler adran 2) - Rheoliad 21:
Lwfansau dros nos tystion arbenigol a phroffesiynol a chyfieithwyr ayb
| Cyfnod o absenoldeb | Uchafswm a ddaeth i rym ar 1.8.2001 |
| Gwesty Dros Nos - canol dinasoedd Llundain, Birmingham, Manceinion, Leeds, Lerpwl neu Newcastle Upon Tyne |
£85.25 * A £21.00 y Nos o Lwfans Cynhaliaeth a £5.00 o Lwfans Mân Dreuliau Personol mewn grym er 1.6.2005 |
| Dros nos (yn rhywle arall) |
£55.25 £25.00 yn unig os gyda theulu neu ffrindiau, mewn grym er 1.6.2005 |
- Rheoliad 22:
Lwfans i dystion sy'n forwyr
| Cyfnod o absenoldeb | Uchafswm a ddaeth i rym ar 23.5.1988 |
| Lwfans digolledu | £29.70 |
| Lwfans cynhaliaeth | Yn ôl disgresiwn y llys, ond heb fod yn fwy na'r swm a fyddai'n codi'n rhesymol ac yn wirioneddol |
- Rheoliad 24:
Lwfansau teithio
| (a) Cyfradd Trafnidiaeth Gyhoeddus – Gweler y Canllaw i Lwfansau am fwy o fanylion (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg) | Cyfradd y filltir a ddaeth i rym ar 1.8.2001 |
| Beiciau modur | 25c |
| Ceir modur | 25c |
| (b) Cyfradd Safonol – Gweler y Canllaw i Lwfansau am fwy o fanylion (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg) | Cyfradd y filltir a ddaeth i rym ar 1.8.2001 |
| Beiciau modur | 45c |
| Ceir modur | 45c |
| (c) Ychwanegiad Teithwyr | |
| Teithiwr cyntaf | 2c |
| Pob teithiwr ychwanegol | 1c |
| (d) Ffioedd Parcio – ffioedd sy'n codi'n rhesymol ac yn wirioneddol | |
| (e) Beic pedal | 20c mewn grym er 1.6.2005 |
- Rheoliad 25:
Adroddiadau meddygol ysgrifenedig
| Uchafswm a ddaeth i rym ar 6.5.2003 | |
| a) Adroddiad yn dilyn cais y mae adran 32(2) Deddf Cyfiawnder Troseddol 1967 yn berthnasol iddo | |
| Meddyg Ymgynghorol | £74.80 |
| Ymarferwr meddygol cofrestredig arall | £52.80 |
| (b) Ffioedd uwch (lle gwnaethpwyd dros 2 awr o waith angenrheidiol) | Uchafswm dyddiol |
| Meddyg Ymgynghorol | £298.25 |
| Ymarferwr meddygol cofrestredig arall | £211.00 |
| c) Archwiliad ac adroddiad i bennu ffitrwydd ar gyfer hyfforddiant canolfan gadw | |
| Pob ymarferwr meddygol cofrestredig | £35.20 |
- Rheoliad 25 (2):
Lwfans milltiredd cerbydau ymarferwyr meddygol cofrestredig
| Uchafswm a ddaeth i rym ar 1.8.2001 | |
| Beiciau modur | 45c |
| Ceir modur | 45c |
Adran 2 – Cyfarwyddyd ar gyfer Swyddogion Costau/Pennu wrth asesu lwfansau tystion arbenigol a lwfansau eraill
Gan na phennwyd graddfeydd ar gyfer lwfans i ad-dalu tystion arbenigol a rhai pobl eraill penodol, cyhoeddir y cyfarwyddyd yn yr adran hon er mwyn cynorthwyo Swyddogion Costau/Pennu drwy ddarparu pwynt cyfeirio o ran y cwantwm i'w ddefnyddio wrth ddefnyddio eu disgresiwn i benderfynu ynghylch hawliadau o'r fath. Bydd yn ddefnyddiol hefyd i'r bobl hynny sy'n gwneud hawliadau wrth iddynt benderfynu ar yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.
Mae telerau ac amodau gwasanaethau cyfieithu wyneb yn wyneb i'w gweld ar wefan y Swyddfa Gartref.
Mae'r ffigurau a ddangosir yn seiliedig ar lwfansau a wneir ledled Cymru a Lloegr. Bwriedir adolygu'r wybodaeth yn flynyddol.
Mae'r bandiau cyfradd a ddangosir yn ymdrin â maes sgìl eang ac, mewn rhai achosion, nifer o wahanol fathau o sgiliau. Nid ydynt yn darparu terfyn isaf nac uchaf, ond dim ond arweiniad i lefelau lwfansau dan amgylchiadau normal. Efallai y bydd yn briodol, wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos, diystyru'r graddau cyfarwyddyd sydd wedi'u cynnwys yma. Fodd bynnag, bydd achlysuron o'r fath yn eithriadol o brin.
Wrth ddefnyddio eu disgresiwn, dylai Swyddogion Costau/Pennu gofio ei bod yn rhaid ystyried pob achos yn unigol. Dylent ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol sy'n ymwneud â'r hawliad, gan gynnwys materion megis y gwaith a wnaethpwyd, statws neu brofiad y person sy'n gwneud y gwaith, a pha mor hawdd yw cael gafael ar y fath bobl yn y rhan o'r wlad dan sylw.
Mewn achosion anodd, dylai Swyddogion Costau/Pennu geisio cyngor gan eu Rheolwr Rhanbarthol-Pennu Costau, drwy eu Rheolwr Llys.
| Tyst arbenigol | Lwfans o 6 Mai 2003 ymlaen |
|
1. Ymarferwr meddygol ymgynghorol, seiciatrydd, patholegydd Paratoi (archwiliad/adroddiad) |
£70-£100 yr awr |
| Presenoldeb yn y llys (diwrnod llawn) | £346-£500 |
|
2. Arbenigwr ym maes ffrwydron a/neu dân (aseswr) Paratoi |
£50-£75 yr awr |
| Presenoldeb yn y llys (diwrnod llawn) | £255-£365 |
|
3. Gwyddonydd fforensig (gan gynnwys archwilydd dogfennau a gwestiynir), syrfëwr, cyfrifydd, peiriannydd, ymarferwr meddygol, pensaer, milfeddyg, meteorolegwr Paratoi |
£47-£100 yr awr |
| Presenoldeb yn y llys (diwrnod llawn) | £226-£490 |
|
4. Ôl bysedd Paratoi |
£32-£52 yr awr |
| Presenoldeb yn y llys (diwrnod llawn) |
£153-£256 O fis Chwefror 2007 ymlaen |
| 5. Cyfieithydd | Gweler y Telerau ac amodau ar wefan y Swyddfa Gartref |
Mwy o wybodaeth I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch llys lleol, neu'r Weinyddiaeth Cyfiawnder ar 020 7210 8772.
I ddarllen dogfennau ar fformat
bydd arnoch angen copi o'r rhaglen sydd ar gael am ddim, Adobe Acrobat Reader.
