English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Cyfreithiol/ Proffesiynnol
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

GLlEM Cymru

Y Llysoedd Ynadon Protocol ar gyfer Rhestru Achosion lle mae'r Iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio


Mae Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi wedi mabwysiadu'r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar sail gydradd wrth ymgymryd â busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru.

Dylech ddilyn y canllawiau isod pan roddir gwybod i'r llys fod parti neu unrhyw dyst yn dymuno defnyddio'r Gymraeg yn ystod unrhyw ran o achos. Dylid nodi, yn unol ag Adran 22(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993

“Mewn unrhyw achosion cyfreithiol yng Nghymru gellir siarad Cymraeg gan unrhyw barti, tyst neu berson arall sy'n dymuno'i defnyddio, yn ddarostyngedig mewn achosion mewn llys heblaw llys ynadon i'r cyfryw rybudd ymlaen llaw ag a fydd yn ofynnol yn ôl rheolau'r llys; a gwneir unrhyw ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer cyfieithu yn unol â hyn.”

Nid oes rhwymedigaeth ar unigolyn i roi rhybudd ymlaen llaw yn y Llys Ynadon cyn arfer ei hawliau dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mater o ddewis i'r unigolyn ei hun yw defnyddio'r iaith.  Ei ddewis ef neu ei dewis hi yw'r ffactor pwysig yn hytrach nag unrhyw anhawster i ddeall.  Felly, mae gan unigolyn sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg mewn achos yr hawl i wneud hynny ac ni ddylai fod gofyn iddo gyfiawnhau hynny na chyfyngu ar faint o ddefnydd a wna o'r iaith.  Nid yw'r ffaith bod yr unigolyn yn ddwyieithog ac yn gymwys yn y Saesneg yn effeithio nac yn cyfyngu ar ei hawl i ddefnyddio'r Gymraeg.  O ran egwyddor cydraddoldeb, mae'n hanfodol nad yw defnyddio'r Gymraeg yn arwain at unrhyw anfantais i unrhyw un o'r partïon na'r tystion oherwydd oedi cyn rhestru neu ddiffygion yn y trefniadau a wneir i gael cyfieithu ar y pryd. Mae'r Protocol hwn yn berthnasol i bob achos a gynhelir yn y Llysoedd Ynadon, gan gynnwys gwrandawiadau sifil, teulu, gorfodi dirwyon ac unrhyw wrandawiadau panel arbenigol.

^Brig

Y protocol sydd i gael ei ddilyn:

  1. Pan ddaw gwybodaeth i law y bydd yr iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn unrhyw achos, dylid gwneud trefniadau lle bynnag y mae hynny'n bosibl i fwrw ymlaen â'r achos hwnnw heb ei ohirio.
  2. Ni fydd wastad yn bosibl bwrw ymlaen heb  ohirio felly dylid annog partïon i fanteisio ar gyfleoedd i roi rhybudd eu bod am ddefnyddio'r Gymraeg, er enghraifft:
    • Rhaid dweud wrth bob diffynnydd, ceisydd neu barti mewn achos am ei hawl i ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg ar y cyfle cyntaf posibl a dylid eu gwahodd i roi gwybod i'r llys ymlaen llaw beth yw eu dewis;
    • Dylai pob gwrandawiad rheoli achos, adolygiad cyn treial a gwrandawiad pennu treial sefydlu dewis iaith diffynyddion, partïon a thystion;
    • Yn y gwrandawiad cyntaf yn y llys achosion teulu, rhaid i'r clerc gael gwybod a fydd unrhyw barti'n dymuno defnyddio'r Gymraeg yn yr achos. Mae'n arbennig o bwysig sicrhau beth yw iaith gyntaf unrhyw blentyn sy'n rhan o'r achos, a lle bo hynny'n briodol, sicrhau bod Gwarcheidwad dwyieithog yn cael ei bennu/phennu i weithredu ar ran y plentyn.
  3. Pan fydd rhaid gohirio achos, dylai cadeirydd y fainc neu'r Barnwr Rhanbarth egluro'r rhesymau dros ohirio yn ofalus.
  4. Pan na fydd rhybudd wedi cael ei roi ymlaen llaw ac nad yw'r ynadon a'r cynghorydd cyfreithiol sydd yn y llys yn ddwyieithog, dylid ystyried y posibilrwydd o wneud trefniadau brys fel bod modd i'r achos fynd rhagddo heb orfod gohirio lle mae'r trefniadau hynny yn ymarferol o fewn rheswm dan yr amgylchiadau a bod y partïon yn cytuno.  Rhoddir enghreifftiau yn Atodiad A.  Mater i'r llys unigol yn llwyr fydd hyn ym mhob achos ac nid yw'r enghreifftiau yn cynnwys pob opsiwn posibl nac yn rhwymo unrhyw lys unigol.  Dylai'r penderfyniad a wneir gael ei gyhoeddi yn y llys agored.
  5. Pan geir rhybudd ymlaen llaw dylid gwneud trefniadau yn ddieithriad ym mhob treial i'r fainc neu'r Barnwr fod yn ddwyieithog ac mae'n arfer da hefyd i drefnu i'r cynghorydd cyfreithiol fod yn ddwyieithog.  Fodd bynnag, pan fydd treialon o'r fath yn gymhleth neu fod a wnelont â honiadau difrifol, dylai Clerc yr Ynadon hefyd drefnu fod y cynghorydd cyfreithiol yn ddwyieithog.
  6. Pan geir rhybudd ymlaen llaw mewn unrhyw fath arall o achos, dylid gwneud trefniadau priodol i'r fainc fod yn ddwyieithog gan nodi, lle nad oes tystiolaeth yn cael ei rhoi, fod modd cael mainc nad oes ond dau aelod arni.  Yn dibynnu ar y math o wrandawiad, efallai y bydd yn dderbyniol hefyd gwneud rhai o'r trefniadau a amlinellwyd yn Atodiad A neu drefnu i gyfieithwyr gael eu penodi.  Mater i'r llys unigol yn llwyr, fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4, yw gwneud y penderfyniad hwnnw.
  7. Lle nad oes angen cyfieithydd mewn achosion lle caiff y Gymraeg ei defnyddio, gall y cadeirydd benderfynu cyhoeddi penderfyniad y llys yn y Gymraeg a'r Saesneg os oes raid er budd unigolion eraill, nad oes ganddynt ran yn yr achos, sydd efallai yn bresennol yn y llys ac nad ydynt yn ddwyieithog e.e. y wasg.
  8. Cyfieithwyr
    Pan fydd unrhyw unigolyn yn dewis tystio yn Gymraeg, rhaid i unrhyw gwestiynau a ofynnir yn Saesneg gael eu cyfieithu i'r Gymraeg er ei fudd.  Pan fydd angen cyfieithu i'r Saesneg a'r Gymraeg, rhaid cael dau gyfieithydd yn bresennol.  Hyd yn oed yn yr achosion hynny pan nad oes angen cyfieithu ond i un iaith (e.e. pan fydd y ddau adfocad yn siarad Cymraeg), mae angen dau gyfieithydd ar gyfer unrhyw wrandawiad pan fyddai gofyn i'r cyfieithydd gyfieithu am unrhyw gyfnod o amser fel bod y cyfieithwyr yn cael seibiannau rheolaidd ac aml heb ohirio nac ymestyn hyd y gwrandawiad yn ddianghenraid.
  9. Dim ond cyfieithwyr ar y rhestr gymeradwy y ceir eu defnyddio.  Mewn rhai achosion eithriadol pan fydd plant yn dystion neu pan fydd materion anarferol o gymhleth er enghraifft, ac y byddai'n dda o beth cael cyfieithwyr neilltuol o fedrus a phrofiadol, dylid ymgynghori â'r Uned Iaith Gymraeg ynghylch dewis cyfieithydd.
  10. Dylid rhoi pob cymorth i'r cyfieithwyr i baratoi ar gyfer y gwrandawiad a chaniatáu iddynt weld, neu roi copïau iddynt o, ddatganiadau'r tystion a chopïau o'r gwŷs / cyhuddiad cyn y gwrandawiad er mwyn rhoi amser iddynt i baratoi a nodi unrhyw derminoleg anarferol neu arbenigol a allai gael ei defnyddio yn ystod y gwrandawiad.
  11. Rhaid i'r llys sicrhau bod copïau dwyieithog o bob llw/cadarnhad ar gael yn ystafell y llys.
  12. Offer Cyfieithu
    Yn y rhan fwyaf o wrandawiadau mewn Llysoedd Ynadon bydd cyfieithwyr yn defnyddio eu hoffer eu hunain, ond bydd angen cadarnhau hyn wrth eu comisiynu.  Os defnyddir offer y llys gan y cyfieithydd bydd angen ei brofi o leiaf 7 diwrnod cyn y gwrandawiad i roi digon o amser i gael gafael ar offer ychwanegol neu, os oes raid, ar wasanaethau peiriannydd.  Yn arbennig, rhaid i'r llys sicrhau bod digon o glustffonau ar gael i bawb sy'n ymwneud â'r achos.  Rhaid sicrhau bod  clustffon amgaeedig arbennig sy'n gallu cymryd dwy sianel, ar gael i dystion fydd yn cael eu holi gan adfocad sy'n siarad Saesneg neu ar gyswllt fideo.
  13. Bydd angen gofal arbennig a chynllunio pan fo cyfieithu yn ffactor mewn achosion mesurau arbennig a lle bo'r angen gellir cysylltu â'r Uned Iaith Gymraeg.

Yr Anrhydeddus Mr Ustus Roderick Evans

Yr Anrhydeddus Mr Ustus Nigel Davis

Tachwedd 2007

^Brig

ATODIAD A

  1. Mewn achos lle nad oes tystiolaeth yn cael ei rhoi a bod y ffeithiau'n syml a chymharol ddibwys, e.e. meddw ac afreolus neu oryrru ac mai dim ond y cadeirydd sy'n ddwyieithog, gellir bwrw ymlaen â'r achos gyda'r cadeirydd yn cyfieithu yn y llys neu yn yr ystafell ymneilltuo cyn dedfrydu.
  2. Pan fydd mwy nag un llys yn eistedd, efallai y bydd yn bosibl ymneilltuo i ad-drefnu aelodaeth y meinciau fel bod modd ffurfio mainc ddwyieithog.
  3. Mewn achos lle mae'r partïon i gyd yn ddwyieithog ar wahân i'r erlynydd neu'r swyddog prawf, efallai y bydd yn bosibl defnyddio'r cynghorydd cyfreithiol i gyfleu'r wybodaeth neu gynorthwyo'r swyddogion hynny.
  4. Lle mae'r llys yn cynnwys ynadon a chynghorydd cyfreithiol ac mai dim ond un ynad sy'n ddwyieithog, efallai y bydd yn bosibl i'r unigolyn hwnnw gymryd y ble neu ymdrin â faterion rhagarweiniol eraill cyn gohirio'r achos.
  5. Lle nad yw'r fainc yn ddwyieithog ond fod y cynghorydd cyfreithiol yn ddwyieithog, mae'n bosibl i'r trefniadau cyn treial gael eu gwneud gyda'r cynghorydd cyfreithiol yn gweithredu fel cyfieithydd i'r fainc neu gall y cynghorydd cyfreithiol ddelio â'r materion i gyd ei hun lle maent o fewn ei bwerau dirprwyedig barnwrol ef neu hi.
  6. Ym mhob achos lle mai penderfyniadau gweinyddol pur sy'n cael eu gwneud, gall ynad dwyieithog gyhoeddi penderfyniad y llys yn y ddwy iaith lle nad yw'r cynghorydd cyfreithiol na'r ynadon eraill yn ddwyieithog.   
  7. I'r gwrthwyneb, pan wneir penderfyniadau pwysig e.e mechnïo, dedfrydu neu dreial, lle bo dau aelod dwyieithog ar y fainc a'r trydydd aelod yn Ddi Gymraeg, yna gallai'r trydydd aelod beidio â chymryd rhan yn yr achos i arbed ei ohirio.

^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 04 January 2008 12:37. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .