Profion Tadolaeth wedi'u cyfarwyddo gan y llys
Beth yw prawf tadolaeth genetig?
Cylch gorchwyl y rhestr achrededig
Gofynion y Weinyddiaeth Cyfiawnder ar gyfer achredu
Y rhestr achrededig ar gyfer profi tadolaeth dan gyfarwyddyd y llys
Mae gan y llysoedd bŵer statudol i roi cyfarwyddyd i gynnal prawf gwyddonol er mwyn penderfynu pwy yw rhiant plentyn dan adran 20 Deddf Diwygio Cyfraith Teulu 1969. Fel rheol, dim ond pan fydd un parti yn gyndyn o gael cynnal y prawf y bydd y llys yn ei gweld yn angenrheidiol defnyddio'r pŵer hwnnw. Os bydd y llys yn rhoi “Cyfarwyddyd Adran 20” rhaid iddo ddewis profwr oddi ar restr o gyrff achrededig a gedwir gennym.
Er mwyn cael eu hachredu, rhaid i gyrff gyrraedd safonau penodol. Pwrpas y meini prawf yw sicrhau bod y dystiolaeth wyddonol yn gadarn ac yn ddibynadwy.
Beth yw prawf tadolaeth genetig?
Mae defnyddio DNA i brofi tadolaeth yn weithdrefn wyddonol sydd wedi'i defnyddio ers tro er mwyn gweld a oes perthynas rhwng pobl. Mae profi tadolaeth drwy DNA wedi dod yn rhatach ac fe'i defnyddir yn fwy eang. Ers talwm, roedd yn rhaid cael sampl gwaed, ond erbyn hyn, mae'n bosib defnyddio samplau eraill o'r corff megis swab o'r geg. At ddibenion tystiolaeth, rhaid cymryd pob sampl dan amodau rheoledig.
Mae profion tadolaeth yn aml dros 99% yn gywir. Os nad oes gan y tad tybiedig berthynas â'r plentyn, mae'n bosib profi hynny drwy brofi'r plentyn a'r sawl yr honnir ei fod yn dad iddo yn unig. I brofi bod perthynas rhwng plentyn a thad tybiedig, rhaid profi samplau gan y fam, y plentyn a'r tad tybiedig.
Cylch gorchwyl y rhestr achrededig
Mae'r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn cadw rhestr o gyrff achrededig i gynnal profion gwyddonol er mwyn penderfynu pwy yw rhieni plentyn, pan fydd llys yn rhoi “Cyfarwyddyd Adran 20”.
Nid yw'r darpariaethau statudol yn berthnasol pan fydd partïon yn cyflwyno tystiolaeth DNA drwy gytundeb heb gael unrhyw gyfarwyddyd Adran 20. Mewn achosion o'r fath nid oes yn rhaid cynnal profion fel hyn gan labordy sydd wedi'i hachredu gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Nid oes gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder gyfrifoldeb cyffredinol dros brofi DNA.
Gofynion y Weinyddiaeth Cyfiawnder ar gyfer achredu
Yn sgil adolygu'r weithdrefn sy'n gysylltiedig â'r rhestr, cytunwyd i ddiwygio'r meini prawf achredu ym mis Mehefin 2006. Dyma'r meini prawf:
- Rhaid i ymgeiswyr wneud cais ysgrifenedig ar ffurflen a ddarperir gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder, a rhaid llofnodi honno a'i chyflwyno ar ffurf copi caled.
- Rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hachrediad ISO/IEC 17025 cyfredol naill ai drwy anfon copi gwreiddiol neu gopi wedi'i ardystio o'r dystysgrif. Safon ryngwladol i labordai yw ISO 17025 sy'n ymwneud â mesur a phrofi. Rhaid i'r ymgeiswyr fod wedi'u hachredu gan gorff achredu sy'n cydymffurfio â gofynion ISO/IEC 17011(Canllawiau ISO 58 gynt) ynghyd â thystiolaeth o aelodaeth lawn o'r Gydweithfa Achredu Labordai Rhyngwladol (ILAC).
- Rhaid i ymgeiswyr addo:
- cydymffurfio â Chod Ymarfer a Chanllawiau'r Adran Iechyd ar Wasanaethau Profion Tadolaeth Genetig (neu unrhyw fersiwn ddiwygiedig ohonynt) wrth gynnal profion dan gyfarwyddyd y llys dan Adran 20 Deddf Diwygio Cyfraith Teulu 1969.
- cydymffurfio â Rheoliadau Profion Gwaed (Tystiolaeth o Dadolaeth) 1971 (fel y'u diwygiwyd) neu unrhyw fersiwn ddiwygiedig (mae copïau ar gael gan gyflenwyr masnachol); a
- chydymffurfio â gofynion yr Adran ynghylch sut y dangosir eu statws achrededig wrth hysbysebu neu mewn deunydd gwybodaeth.
Byddwn yn ystyried ceisiadau gan labordai sydd ag achrediad ISO 17025 ym mha le bynnag y maent, ond ni fyddwn yn ystyried ceisiadau gan gyrff sy'n canoli ar eu rhan. Byddwn yn adolygu cymhwysedd parhaus pob corff sydd ar y rhestr bob blwyddyn.
I lenwi'r ffurflen gais, rhaid i chi wneud y canlynol:
- Rhowch enw'ch cwmni yn y lle priodol ar y ffurflen (mae modd gwneud hyn yn electronig neu â llaw).
- Dylech ystyried yn ofalus a allwch wneud yr holl ymrwymiadau angenrheidiol.
- Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen gais a'i llofnodi, anfonwch hi gyda'ch tystysgrif ISO 17025 wreiddiol/wedi'i hardystio i'n cyfeiriad cysylltu. Sylwch os gwelwch yn dda na allwn dderbyn ceisiadau dros y ffacs neu'r e-bost. Byddwn fel arfer yn cydnabod y cais o fewn un diwrnod gwaith ar ôl i ni ei dderbyn.
- Rhaid ymrwymo i gadw at ein gofynion ynghylch sut y mae cyrff achrededig y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn dangos eu statws achrededig ar unrhyw ddeunydd hyrwyddo, hysbysebu, neu wybodaeth ar wefan, dylid cyfyngu'r datganiadau i'r canlynol:
“Mae [Enw'r Sefydliad] wedi'i achredu gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn gorff a gaiff gynnal profion rhieni dan gyfarwyddyd llysoedd sifil Cymru a Lloegr dan adran 20 Deddf Diwygio Cyfraith Teulu 1969”. - Sylwch ein bod yn ystyried ymadroddion megis 'Wedi'i gymeradwyo gan y Llywodraeth' 'Wedi'i gymeradwyo gan yr Arglwydd Ganghellor' neu 'Wedi'i gymeradwyo gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn gamarweiniol ac felly'n annerbyniol.
- Credwn hefyd fod yr ymadrodd “Wedi'i gymeradwyo gan y Llys” yn anghywir ac yn gamarweiniol oherwydd ei fod yn awgrymu y bydd y prawf rhieni'n cael ei dderbyn yn dystiolaeth yn awtomatig gan y llys. Wrth gwrs, mae rhyddid i gyrff wneud honiadau (cywir) am eu perfformiad yn y gorffennol.
- Er mwyn bod yn glir, dim ond pan fydd y llys wedi rhoi cyfarwyddyd i gynnal profion dan Adran 20 y Ddeddf Diwygio Cyfraith Teulu y bydd achrediad y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn berthnasol. Os nad yw'r llys wedi rhoi cyfarwyddyd Adran 20, caiff partïon mewn achos gyflwyno tystiolaeth DNA drwy gytundeb ac yn unol â chyfarwyddiadau rheoli achos y llys. Fel sy'n wir am fathau eraill o dystiolaeth arall, mater i'r llys yw hi i ystyried pa mor dderbyniol yw tystiolaeth o'r fath a faint o bwys i'w roi arni.
Mae ffurflen gais er mwyn ceisio achrediad ar gael i'w llwytho oddi ar y we.
Lawrlwytho'r ffurflen gais (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Y rhestr achrededig ar gyfer profi tadolaeth dan gyfarwyddyd y llys
Cyflwynwyd y rhestr o gyrff sydd wedi'u hachredu i gynnal profion tadolaeth dan gyfarwyddyd y llys, i'r llysoedd sifil (gan gynnwys llysoedd teulu) ar 7 Tachwedd 2007.
Y rhestr achrededig (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Sharon Rowand
Cangen Perthnasau Teulu 2
Adran Cyfiawnder Teulu
Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi
4ydd Llawr, Selbourne House
54-60 Victoria Street
Llundain
SW1E 6QW
Ffôn: 020 7210 2653
Ffacs: 020 7210 8681
E-bost: paternity.enquiries@hmcourts-service.gsi.gov.uk
