Ail-selio
Mae'r Ddeddfau Profiant Trefedigaethol yn caniatáu i grantiau a wnaed mewn nifer o wledydd a thiriogaethau gael eu hail-selio yng Nghymru a Lloegr. Er mwyn i un o'r gwledydd/tiriogaethau hyn gael y grant wedi'i ail-selio, rhaid cael y canlynol:
- Y grant trefedigaethol gwreiddiol neu gopi wedi'i ardystio a'i selio gan lys, neu gopi swyddogol o'r grant ynghyd â chopi o'r ewyllys wedi'i hardystio a'i selio gan y llys ynghyd â dau lungopi
- Cais ysgrifenedig (llythyr awdurdod neu atwrneiaeth) oddi wrth bob grantî (yr unigolion a enwir yn y grant) yn gofyn am ail-selio'r grant. Gellir cyfeirio'r cais i'r llys os yw'r grantî yn gwneud cais yn bersonol neu gall awdurdodi person/cwmni o dwrneiod a enwir i wneud cais ar ei ran.
- I gydymffurfio â gofynion Swyddfa Trethi Cyfalaf Cyllid a Thollau EM, bydd angen cael ffurflen IHT 207 neu ffurflen D18 atodol (mae hon yn rhan o'r ffurflen IHT 200). Gellir cael y ddwy ffurflen oddi wrth Cyllid a Thollau EM (ffôn 0845 3020 900) a dylech gysylltu â nhw i ganfod pa ffurflen sy'n briodol i chi ei defnyddio.
- Ffi o £40 os yw gwerth yr ystad dros £5000 (dim ffi o dan y swm hwn). Mae copïau'n costio £1 yr un. Gwneir sieciau'n daladwy i GLlEM
^ Brig
|
