Grantiau Cynrychiolaeth
Beth yw grant cynrychiolaeth?
Pan fydd person yn marw, rhaid i rywun ddelio â'u hystad (yr arian, yr eiddo a'r meddiannau y mae'r person wedi'u gadael) drwy gasglu'r holl arian at ei gilydd, talu unrhyw ddyledion a dosbarthu'r hyn sy'n weddill i'r bobl sydd â hawl iddo. Awdurdod y llys yw profiant, a roddir i berson neu bersonau i weinyddu ystad yr ymadawedig, a'r Grant Cynrychiolaeth yw enw'r ddogfen a roddir gan y Gwasanaeth Profiant. Fel arfer mae'r rhai sy'n dal yr asedau yn gorfod cael y ddogfen hon fel prawf i ddangos bod y person neu'r personau iawn wedi cael caniatâd y Gwasanaeth Profiant i weinyddu ystad yr ymadawedig.
Pam fod angen grant cynrychiolaeth?
- Amddiffyn buddiannau'r ystad a'r buddiolwyr. Cyn rhyddhau arian neu unrhyw asedau eraill yr oedd yr ymadawedig yn berchen arnynt, mae angen i'r rhai sy'n dal yr asedau (megis banciau) wybod eu bod yn delio gyda rhywun sydd wedi cael yr awdurdod cyfreithiol i ddelio gyda materion yr ymadawedig. Y grant cynrychiolaeth sy'n darparu'r sicrwydd hwnnw.
- Cadarnhau bod yr ewyllys a wnaethpwyd gan y person sydd wedi marw yn ddilys (ond, er mai ychydig bach o achosion sy'n codi, mae'n bosibl herio dilysrwydd ewyllys ar ôl i brofiant gael ei roi).
A oes angen grant ym mhob achos?
Nac oes.
- Mae'n bosib na fydd angen cael grant lle bo cartref ym meddiant enwau ar y cyd a'i fod yn trosglwyddo, fel mater o drefn, i'r cydberchennog arall sy'n goroesi.
- Mewn sefyllfa lle ceir cyfrif ar y cyd mewn banc neu gymdeithas adeiladu, gall dangos tystysgrif marwolaeth fod yn ddigon i drosglwyddo'r arian i'r cyd-ddeiliad.
- Mae'n bosib y bydd rhai sefydliadau'n rhyddhau arian heb ddangos grant, os nad oedd llawer o arian gan yr ymadawedig. Gwnewch gais i'r sefydliadau i weld a fyddant yn rhyddhau arian heb grant.
Sut y ceir grant cynrychiolaeth?
- Trwy wneud cais i Gofrestrfa Brofiant Gellir gwneud cais yn bersonol, neu drwy dwrnai (neu, yn fwy anaml, drwy notari neu fargyfreithiwr).
- Gyda rhai eithriadau, sail y cais yw affidafid (llw'r ysgutor neu'r gweinyddwr), a dyngir gan y person sy'n gwneud y cais, yn nodi sut y mae ganddo ef neu hi'r hawl i weithredu. Bydd hawl person i gymryd grant yn dibynnu ar amgylchiadau'r achos, ac fe'i pennir drwy gyfraith. Os yw'r ffeithiau yn yr affidafid yn bodloni'r gofynion cyfreithiol, bydd grant cynrychiolaeth yn cael ei roi.
- Rhaid bodloni gofynion Cyllid a Thollau EM o ran y Dreth Etifeddu.
