Amdanom Ni
Ein Targedau | Ein Llwyth Gwaith | Gwasanaethau Eraill | Gwasanaeth Cwsmeriaid | Rhagor o Gymorth
Targedau ar gyfer rhoi grantiau cynrychiolaeth
95% o geisiadau gan dwrneiod, notarïaid neu fargyfreithwyr i'w prosesu o fewn 7 niwrnod gwaith i dderbyn yr holl wybodaeth ofynnol
85% o geisiadau personol i'w prosesu o fewn mis i dderbyn yr holl wybodaeth ofynnol
Ein Llwyth Gwaith
Mae'r Gwasanaeth Profiant yn dal i weld cynnydd cyson flwyddyn ar ôl blwyddyn yn nifer y ceisiadau am grantiau cynrychiolaeth, sy'n cynnwys nifer cynyddol o geisiadau ar gyfer grantiau sy'n gysylltiedig â chynlluniau iawndal yr Adran Masnach a Diwydiant ar gyfer Clefyd y Bysedd Gwyn a Chlefyd Resbiradol (Corfforaeth Glo Prydain). Credir y bydd y gwaith ychwanegol hwn yn para tan 2009.
Perfformiad yn 2005
Yn 2005, rhoddwyd 299,215 o grantiau cynrychiolaeth (294,018 yn 2004).
O'r rhain, roedd 86,349 (29%) yn geisiadau personol a 212,866 (71%) yn geisiadau gan dwrneiod, notarïaid neu fargyfreithwyr. Roedd yr ymadawedig wedi gadael ewyllys mewn 212,046 achos.
Gwasanaethau Eraill
Chwiliadau
Mae'r Gwasanaeth Profiant yn cynnal mynegai o'r holl grantiau cynrychiolaeth sydd wedi'u rhoi er 1858 (sef y Calendr Profiant), ac mae'n darparu copïau o'r dogfennau hyn am ffi (£5 ar hyn o bryd) ar gais.
Mae'n bosibl cychwyn chwiliad sefydlog. Mae chwiliad sefydlog yn ddilys am chwe mis, ac os cyhoeddir grant o fewn y cyfnod hwnnw yn erbyn yr enw a gofrestrwyd gennych, byddwch yn derbyn copi o’r grant a chopi o’r ewyllys yn awtomatig. Y ffi ar hyn o bryd yw £5.
Adneuo ewyllysiau
Mae'n bosibl cyflwyno'ch ewyllys i'r Brif Gofrestrfa yn Llundain i'w chadw'n ddiogel yn ystod eich oes. Bydd hyn yn sicrhau bod eich ewyllys yn cael ei chadw'n ddiogel ac na fydd modd ei hanwybyddu pan ddaw'r amser i wneud cais am grant. Codir ffi o £15 am y gwasanaeth hwn.
Manylion am dynnu ewyllysiau o fannau cadw diogel
Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygiadau cyfredol
Mae'r Gwasanaeth Profiant yn parhau i weithio gyda sefydliadau eraill i geisio gwella gwasanaethau i'r cwsmer:
- Y Cofrestrydd Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau lleol i gael copïau o dystysgrifau marwolaeth y mae'n rhaid eu cael ar gyfer gwneud cais am brofiant.
- Swyddfa Trethi Cyfalaf Cyllid a Thollau EM sy'n darparu gwybodaeth am y Dreth Etifeddu.
Rydym hefyd wedi sefydlu cysylltiadau gyda'n cymunedau lleol drwy weithio gydag ysgolion lleol, a'r mudiadau canlynol:
Canolfannau Cyngor ar Bopeth,
Age Concern,
CRUSE
yn ogystal â threfnwyr angladdau lleol.
Rydym yn gweithio gyda llysoedd lleol i godi ymwybyddiaeth o'r Gwasanaeth Profiant mewn diwrnodau agored yn y llysoedd ac rydym wedi sefydlu grwpiau defnyddwyr ymhob Cofrestrfa. Rydym wrthi'n diwygio'r Rheolau Profiant Di-gynnen ac yn ystyried gweithdrefnau er mwyn symleiddio'r broses ar gyfer cwsmeriaid.
Rhagor o Gymorth
Sut i gael mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Profiant, a ffurflenni:
- Gan y llinell gymorth dros y ffôn sy'n cael ei chynnal ar y cyd gyda Swyddfa Trethi Cyfalaf Adran Cyllid a Thollau EM sy'n darparu gwybodaeth am y Dreth Etifeddu a phrofiant
- Ffôn: 0845 30 20 90
- Gan y Cofrestrfeydd a'r Is-Gofrestrfeydd Profiant
