English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Canllawiau - Ffioedd Esemptiad Ffi

Adnoddau pellach

Canolfan Cyngor ar Bopeth Cymorth Cyfreithiol Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol

Ffioedd y Llys Sirol

Yn cynnwys ffioedd ar gyfer achosion teulu - O 1 Hydref 2007


Tudalen 2 o 2

Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf pdf hefyd.

Ffioedd y Llys Teulu

  1. Cyffredinol
  2. Plant
  3. Gorchmynion cynhaliaeth
  4. Ceisiadau
  5. Amrywiol
  6. Sut galla i wneud taliad i'r llys?
  7. Beth os na alla i fforddio'r ffi?

 

Dim ond rhai llysoedd sirol sy'n gallu delio gydag achosion Teulu. I gael gwybod ble mae eich Llys Teulu agosaf, naill ai gofynnwch yn eich llys sirol lleol.

1. Cyffredinol

Ar gyflwyno unrhyw ddeiseb gyntaf £300
Ar wneud cais am orchymyn peidio â molestu a/neu orchymyn anheddu dan Ran IV Deddf Cyfraith Teulu 1996 £60
Ar ffeilio achosion cychwynnol pan na phennir unrhyw ffi arall £200
Ar gyflwyno ail ddeiseb neu ddeiseb olynol gyda chaniatâd yn cael ei roi dan reol 2.6(4) £80
Ar ddiwygio deiseb £80
Ar ffeilio ateb i ddeiseb neu groesddeiseb £200

^Brig

2. Plant

Ar ffeilio cais neu ofyn am ganiatâd dan Ddeddf Plant 1989

Cyfraith Breifat £175
Cyfraith Gyhoeddus £150
Ar gychwyn achos dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 £140


Mae achosion Cyfraith Breifat yn ymwneud â chyfrifoldeb rhieni, gwarcheidwaid, gorchmynion adran 8 a darpariaeth ariannol ar gyfer plant.

Mae achosion Cyfraith Gyhoeddus yn cynnwys llety diogel, gofal, goruchwyliaeth, cyswllt â phlentyn mewn gofal, gwarchodaeth frys ayb.

^Brig

3. Gorchmynion cynhaliaeth

Ar ffeilio cais am gofrestru gorchymyn cynhaliaeth £35
Ar ffeilio cais am anfon gorchymyn cynhaliaeth dramor i'w orfodi £35

 

^Brig

4. Ceisiadau

Ffeilio cais am orchymyn heb rybudd neu drwy gydsyniad (gan gynnwys cais i wneud dyfarniad nisi yn absoliwt), ac eithrio pan fônt wedi'u rhestru ar wahân £40
Ffeilio cais ar rybudd, ac eithrio, pan fônt wedi'u rhestru ar wahân £80
Ffeilio cais ar rybudd am lareiddiad ategol neu ffeilio hysbysiad o fwriad i symud ymlaen gyda chais am lareiddiad ategol, ac eithrio gorchymyn trwy gydsyniad £210

^Brig

5. Amrywiol

Ffeilio rhybudd o apêl oddi wrth farnwr rhanbarth £100
Archwilio mynegai dyfarniadau absoliwt a gedwir mewn unrhyw lys sirol ysgariad neu Gofrestrfa Ddosbarth am unrhyw gyfnod penodedig o ddeng mlynedd calendr neu, os na phennir unrhyw gyfnod, am y deng mlynedd ddiweddaraf ac, os yw'n briodol, darparu tystysgrif dyfarniad absoliwt £40

Nid yw hon yn rhestr gyflawn o ffioedd y Llys Teulu. Os hoffech gael mwy o wybodaeth, gofynnwch yn eich Llys Teulu lleol.

^Brig

6. Sut galla i wneud taliad i'r llys?

Gallwch wneud taliad i'r llys gydag arian, siec neu archeb bost. Dylid gwneud y sieciau a'r archebion post yn daladwy i GLlEM. Sylwch na all llysoedd dderbyn taliadau gan ddefnyddio cardiau credyd a debyd.

Mae'r ffi y bydd rhaid i chi ei thalu i'r llys yn dibynnu ar y swm yr ydych chi'n ei hawlio, gan gynnwys llog.

^Brig

7. Beth os na alla i fforddio'r ffi?

Nid oes raid i chi dalu ffi'r llys os byddwch yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol sy'n seiliedig ar brawf modd:

Os gallwch ddangos y byddai talu ffi i'r llys yn achosi caledi gormodol i chi, efallai y byddwch yn gymwys i gael eich esgusodi rhag talu rhan o'r ffi. Bydd y swm y penderfynir arno yn seiliedig ar brawf modd manwl i asesu eich incwm gwario. Bydd staff y llys yn cyfrifo'r cyfraniad y dylech ei wneud tuag at y ffi.

I gael mwy o wybodaeth, neu i wneud cais am gael gostwng y ffi, gofynnwch i staff y llys am gopi o'r daflen a'r ffurflen EX160A - Ffioedd Llys - A oes rhaid i mi eu talu?

Bydd yn rhaid i chi wneud cais ar wahân am bob ffi sy'n daladwy.



Tudalen Flaenorol


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 29 October 2007 12:22. Chris Hinds, HMCS Wales.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .