Hanes Ynadon Heddwch (Ynadon)
Tarddiad y Swydd
Gellir olrhain y cyfraniad y mae ynadon wedi ei wneud i'r system farnwrol yng Nghymru a Lloegr i 1195. Yn y flwyddyn honno comisiynodd Richard I rai marchogion i gadw'r heddwch mewn ardaloedd afreolus. Roeddynt yn gyfrifol i'r Brenin am sicrhau bod y boblogaeth yn glynu wrth y gyfraith. Roeddynt yn cadw "Heddwch y Brenin" ac yn cael eu galw yn Geidwaid yr Heddwch.
Mae'r teitl Ynadon Heddwch yn deillio o 1361, yn ystod teyrnasiad Edward III. Roedd Deddf a basiwyd yn 1327 wedi cyfeirio at benodi "dynion da a chyfreithlon" ymhob sir yn y wlad i "warchod yr Heddwch". Mae Ynadon Heddwch yn dal i gadw (ac o bryd i'w gilydd yn defnyddio) y pŵer a roddwyd neu a roddwyd o'r newydd iddynt yn 1361 i rwymo unigolion afreolus "i fod o ymddygiad da". Nid yw'r rhwymo hyn yn gosb, ond yn fesur ataliol, i geisio sicrhau na fydd pobl y teimlir y gallent droseddu yn gwneud hynny.
Am y 600 mlynedd dilynol, a hyd heddiw, mae Ynadon Heddwch wedi ymgymryd â rhan helaethaf y gwaith barnwrol a wneir yng Nghymru a Lloegr ar ran y Brenin neu'r Frenhines. Am y rhan fwyaf o'r cyfnod hwnnw - hyd nes y crewyd ein system fodern o lywodraeth leol yn y 19eg Ganrif - roedd Ynadon Heddwch hefyd yn gweinyddu'r wlad ar lefel leol. Roeddynt yn pennu'r cyflogau, yn adeiladu ac yn rheoli ffyrdd a phontydd, ac yn darparu ac yn goruchwylio'n lleol y gwasanaethau hynny a oedd, ym marn y Frenhiniaeth a'r Senedd, yn angenrheidiol er lles y wlad.
Comisiwn yr Heddwch
Barnwrol yw'r rhan fwyaf o waith presennol Ynad Heddwch, ond mae rhai o'u cyfrifoldebau e.e. am drwyddedu adeiladau sy'n gwerthu alcohol, yn deillio o'r dyddiau pan oeddent hefyd yn rheoleiddio ac yn gweinyddu'r siroedd. Pan oedd YD yn cael ei benodi roedd ei enw'n cael ei ysgrifennu ar Gomisiwn yr Heddwch yn y sir dan sylw (mae'n digwydd heddiw hefyd). Fel aelodau Comisiwn yr Heddwch daeth yr Ynadon i bob pwrpas yn rheolwyr Cymru a Lloegr ar lefel leol. Am ganrifoedd, roedd y rhai a benodwyd i'r Comisiwn naill ai'n dirfeddianwyr neu'n fasnachwyr cyfoethog, a'u safle cymdeithasol a'u pwer economaidd mor gryf fel nad oedd neb yn gwrthwynebu'u hawdurdod. Adlewyrchir hyn yn y ffaith nad oes gan YD hyd yn oed heddiw fathodyn neu dystysgrif penodiad.
Y Llysoedd Chwarter
Pasiwyd Deddf yn 1361 a nodai y dylai Ynadon Heddwch gyfarfod i ymgymryd â busnes lleol bedair gwaith y flwyddyn. Dyma darddiad y Llysoedd Chwarter, a barhaodd tan y cawsant eu disodli gan Lysoedd y Goron ym mis Ionawr 1972. Er iddynt gadw'u henw gwreiddiol am dros 600 mlynedd, roedd llawer ohonynt yn cyfarfod yn barhaus yn y blynyddoedd olaf o'u hir oes.
Cyfeirir yn aml at Ynadon Heddwch fel 'y mawrion di-dâl'. Mewn gwirionedd, dan Ddeddf a basiwyd yn 1389, roedd yr Ynadon cynnar yn derbyn 'lwfans cynhaliaeth' o bedwar swllt y diwrnod. Mae hyn fel petai wedi dirwyn i ben, a hynny mae'n debyg oherwydd am flynyddoedd roedd y rhan fwyaf o Ynadon Heddwch yn dirfeddianwyr cyfoethog na fyddent yn trafferthu gyda 'chyfrif treuliau'.
Cosbi Potsieriaid
Gan fod cymaint o'r Ynadon Heddwch cynnar hyn yn dirfeddianwyr, nid yw'n syndod fod y Ddeddf Helwriaeth gyntaf wedi'i phasio mor gynnar â 1389. Roedd gan yr hen Ynadon Heddwch enw am fod yn galed ar botsieriaid a oedd fel arfer yn gyfarwydd i'r rhai yr oeddynt yn ymddangos ger eu bron.
Grym i bennu cyflogau a gwasanaethau
Dechreuodd dyletswyddau gweinyddol Ynadon Heddwch ddatblygu ym mlynyddoedd olaf y 14eg Ganrif gan barhau tan 1888. Mor gynnar â 1389 cawsant bwerau i reoleiddio cyflogau a rheoli costau byw drwy bennu prisiau. Dywedai'r Ddeddf y gallai tafarnwyr 'gael enillion rhesymol yn ôl disgresiwn a chyfyngiadau'r Ynadon dywededig'. Gydag economi wledig, deilliai'r pwysau ar gyflogau a phrisiau o achosion naturiol megis tywydd gwael a chynaeafau gwael. Doedd ffactorau megis cost tir ac adeiladau ddim yn ystyriaeth. Wrth i ddiwydiannau sefydlu yn y trefi 'gwlân' canoloesol, cododd problemau newydd nad oedd yr Ynadon Heddwch yn abl i ddelio â hwy. Roedd y rhan fwyaf o'r cyflogwyr newydd yn cystadlu gyda'r tirfeddianwyr am weithwyr.
17 Mai 1999
Cymwysterau Cyfreithiol Ynadon Heddwch
Mae llawer wedi'i ddweud am ddiffyg hyfforddiant Ynadon Heddwch tan yn ddiweddar ond, mewn gwirionedd, roedd llawer o dirfeddianwyr yn aelodau o Ysbytyai Frawdlys. Ond, nid er mwyn eu helpu i weinyddu'r gyfraith droseddol oedd hyn ond i'w galluogi i reoli eu hystadau'n ddoeth. Fel arfer nid oeddynt yn astudio'r gyfraith i ddyfnder mawr. Roedd Falstaff a Meistr Shallow Shakespeare yn nodweddiadol. Dynion cadw-reiat oeddynt gyda'u hoff atgofion yn cael eu crynhoi gan linell Falstaff 'we have heard the chimes at midnight, Master Shallow'. Er hynny, roedd o leiaf 50 argraffiad o weithiau yn rhoi arweiniad i Ynadon wedi'u cyhoeddi erbyn 1600, ac roedd eu rheolaeth wedi dod mor effeithiol, fel y'i disgrifiwyd gan Syr Edward Coke fel hyn "such a form of subordinate government for security and quiet of the realm as no part of the Christian world hath the like".
Cwnstabliaid Plwyf
Yn 1576, roedd yn ofynnol i Ynadon Heddwch adeiladu 'cyweirdy' i gadw dihirod a chrwydriaid. Roeddynt yn cael eu dal gan gwnstabliaid pentref - plwyfolion nad oeddynt yn cael eu talu a oedd yn cael eu galw i wasanaethu'n flynyddol.
Dylanwadau Crefyddol
Dylanwadodd y Diwygiad, ynghyd â'r oruchafiaeth Gatholig a Phrotestannaidd a gafwyd am yn ail, ar yr Ynadon fel ar bob adran arall o'r gymuned. Byddai enwau Ynadon Heddwch yn cael eu tynnu oddi ar y Comisiwn am beidio â mynychu eglwys y plwyf. Dangosodd ymgyrch sgrinio a gynhaliwyd gan yr esgobion yn 1564 fod dros hanner yr 850 o Ynadon Heddwch a archwiliwyd yn cael eu hamau o fod yn reciwsantiaid. Cafwyd gwared ar lawer ar ôl hynny ac yn 1579 roedd yn rhaid i bob YH dyngu llw o ffyddlondeb i'r grefydd sefydledig. Adferwyd hyder dros dro, a phan fygythiwyd Lloegr gan Armada Sbaen, profodd yr Ynadon eto eu gallu i gynnal heddwch y Frenhines.
Y System dan Bwysau
Yn nhrydydd chwarter y 16eg Ganrif, dechreuwyd cwestiynu rheolaeth yr Ynadon Heddwch. Honnwyd bod llawer ohonynt yn esgeuluso'u dyletswyddau neu yn analluog i gyflawni'r dyletswyddau. Yng ngeiriau Arglwydd Geidwad Elisabeth: "Her Majesty may be driven, clean contrary to her most gracious nature and inclination, to appoint and assign private men for profit and gain sake to see her penal laws to be executed". Ar yr un pryd, cydnabuwyd bod llawer yn gydwybodol. Ond, dywedwyd bod y rhain yn cael eu gorlethu gan waith ac yn ei chael yn anodd diwallu gofynion cynyddol eu swydd.
Ehangu dyletswyddau
Yn 1590 cyflwynwyd Comisiwn newydd i ailddiffinio dyletswyddau Ynadon Heddwch. Saith mlynedd yn ddiweddarach, daethant yn gyfrifol am weinyddu Deddf y Tlodion. Yn y cyfamser, roedd eu dyletswyddau yn gweithredu'r gyfraith droseddol yn cynyddu mor gyflym fel bod gwaith Labarde ar ddyletswyddau Ynadon dros 700 o dudalennau. Y deddfiad mwyaf dadleuol a effeithiodd ar Ynadon Heddwch oedd Deddf 1652 a oedd yn eu galluogi i gynnal priodasau a gwneud y mathau eraill o'r seremoni briodasol yn anghyfreithlon. Pan ddiddymwyd yr hawl hwn roedd rhaid rheoleiddio sefyllfa'r rhai a oedd eisoes wedi'u priodi gan Ynadon Heddwch drwy ddarparu mewn Deddf yn ystod teyrnasiad Siarl II bod y cyfryw briodasau'n ddilys.
Amrywiadau Cymdeithasol yn y Penodiadau
Dan y Werinlywodraeth, ehangwyd dosbarthiad cymdeithasol y penodiadau. Cafwyd llai o uchelwyr a mwy o ysweiniaid yn y Comisiwn. Ond gwrthdrowyd y tueddiad hwn yn ystod yr Adferiad. Dychwelodd y bendefigaeth i rym a hwy oedd offerynnau'r Goron ar gyfer gorfodi mesurau yn erbyn anghydffurfwyr. Gorfodasant unffurfiaeth mewn addoli fel a wnaethpwyd gan eu rhagflaenwyr dan Elisabeth I, ond arweiniodd yr amrywiadau crefyddol at ddryswch unwaith eto. Ceisiodd Iago II lwytho'r Comisiwn gyda'i ymlynwyr.
Gwanio'r Buddiant Tir
Daeth newidiadau radical yn sgil chwyldro 1688. Yn 1700, cafwyd gwared ar 74 o Ynadon Middlesex oddi ar y Comisiwn. Roedd cymwysterau eiddo yn bwysicach na ffyddlondeb gwleidyddol neu grefyddol. Yn 1732, codwyd y cymhwyster eiddo, a oedd wedi aros yn ddigyfnewid er 1439. Nodwyd 12 mlynedd yn ddiweddarach ei fod o'r pwysigrwydd pennaf nad oedd unigolion ag ystadau dinod yn cael eu penodi. Roedd yr Arglwydd Raglaw'n penodi "Dynion o Sylwedd yn unig" ar argymhelliad y Goron.
Y Sesiwn Fach
Mor gynnar â'r 16eg Ganrif, roedd Ynadon Heddwch wedi rhannu'u hunain yn grwpiau lleol i ddelio gyda chardota, cynorthwyo'r tlodion ac ati. Yn 1605, sefydlwyd sesiynau lleol i ddelio gyda busnes brys lle nad oedd angen rheithgor ar orchymyn y Cyfrin Gyngor. Wrth i'r baich gwaith gynyddu, daethant i gael eu hadnabod fel llysoedd y Sesiwn Fach, ond ni chawsant eu sefydlu drwy statud tan 1828. Yn y flwyddyn honno, awdurdodwyd Ynadon i rannu'u siroedd yn Rhanbarthau Llysoedd Ynadon. Ymhob un o'r rhain, roedd yr Ynadon Heddwch yn cyflogi twrnai lleol i fod yn glerc.
Effaith y Chwyldro Diwydiannol
Yn y 19eg Ganrif cododd problemau newydd wrth i bobl symud i'r trefi. Symudodd y teuluoedd 'sirol' o'r ardaloedd trefol newydd i'r wlad gyfagos. Cyflwynwyd yr 'Ynadon masnachu' a oedd yn bennaf gysylltiedig â Middlesex, ond a oedd yn amlwg hefyd yn Swydd Gaerhirfryn. Yn ail hanner y 18fed Ganrif roedd nifer fawr o glerigwyr wedi gwasanaethu fel Ynadon. Yn wir, roedd rhai wedi bod yn gadeiryddion y Sesiynau Chwarter. Mae'n debyg mai'r Parchedig W.R. Hay, a oedd â bywoliaeth werthfawr yn Rochdale gwerth £2,500 y flwyddyn, oedd y cyntaf. Roedd clerigwr arall, y Parchedig Richard Burn, Ficer Orton yn Westmoreland, yn gadeirydd Sesiwn Chwarter, ac yn 1755 cyhoeddodd ei waith mawr "The Justice of the Peace and Parish Officer". Roedd yr argraffiad a gyhoeddwyd yn 1869 yn cynnwys pum cyfrol.
Yn ystod y newid o amodau gwledig i drefol, bu gan lawer o'r Ynadon clerigol hyn ran flaenllaw, yn arbennig wrth wella'r amodau yng ngharchardai'r siroedd. Yn 1832, o'r 5,300 o Ynadon Heddwch a oedd yn weithredol, roedd un o bob pedwar mewn urddau eglwysig.
Rhyddhau Ynadon Heddwch o'u dyletswyddau gweinyddol
Rhwng 1829 a 1888, cafodd Ynadon Heddwch wared ar rai o'u prif ddyletswyddau gweinyddol ar wahân i drwyddedu alcohol, a'r gred gyffredinol oedd y byddent yn colli'u dyletswyddau barnwrol hefyd yn y man. Ysgrifennodd yr hanesydd Maitland, "The JP is cheap, he is pure, he is capable but he is doomed, he is to be sacrificed to a theory on the altar of the spirit of the age". Ers iddo ysgrifennu'r geiriau hynny, mae cyfrifoldebau barnwrol Ynadon Heddwch wedi cynyddu'n flynyddol bron.
Effaith trefoli cynyddol
Cyn 1835, roedd yr Ynadon yn y trefi wedi'u penodi yn unol â'r hawliau a roddwyd drwy siarter. Cafwyd darpariaeth yn Neddf Corfforaethau Dinesig 1835 i ynadon y bwrdeistrefi gael eu henwebu gan yr Arglwydd Ganghellor, mewn ymgynghoriad ag ymgynghorwyr lleol. Ond ar gyfer y meinciau sirol, roedd yr Arglwydd Ganghellor yn parhau i gadarnhau enwebiadau'r Arglwyddi Rhaglaw, a oedd â'u dulliau eu hunain o ddod o hyd i ymgeiswyr addas. Roedd penodiad y ddau wedi'i freinio yn y Goron yn gweithredu ar gyngor yr Arglwydd Ganghellor. Yr eithriad i'r rheol oedd Swydd Gaerhirfryn, lle roedd yr ynadon sirol a bwrdeistrefol yn cael eu henwebu gan Ganghellor y Ddugaeth.
Herio'r system benodi
Yn 1906 heriodd y Llywodraeth Ryddfrydol y system benodi hon, a oedd yn golygu bod gormod o Geidwadwyr ar y meinciau. Diddymwyd y cymhwyster eiddo ar gyfer ynadon sirol. Enwebodd yr Arglwydd Loreburn, yr Arglwydd Ganghellor Rhyddfrydol, 7,000 o ynadon rhwng Ionawr 1906, gyda 3,197 ohonynt yn rhyddfrydwyr. Argymhellodd Comisiwn Brenhinol 1910 ar Benodi Ynadon Heddwch y dylid sefydlu system o Bwyllgorau Ymgynghorol, ac erbyn diwedd 1911 roedd Pwyllgorau Ymgynghorol, gyda chynrychiolaeth gyfartal o Geidwadwyr a Rhyddfrydwyr arnynt fel arfer, wedi'u sefydlu yn y rhan fwyaf o siroedd i gynghori Arglwyddi Rhaglaw ar enwebiadau. Deng i ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, roedd y bwrdeistrefi hefyd wedi ffurfio Pwyllgorau Ymgynghorol. Roedd y penodiadau hyn i'r Pwyllgorau am oes tan 1925, pan gyflwynodd yr Arglwydd Cave benodiadau am chwe blynedd a gorchmynnodd hanner y Pwyllgorau i ymddeol yn gylchredol bob tair blynedd.
Cymdeithas yr Ynadon
Mae 1920 yn ddyddiad pwysig yn hanes diweddar Ynadon Heddwch am ddau beth - penodi merched yn Ynadon Heddwch am y tro cyntaf a sefydlu Cymdeithas yr Ynadon. Yn ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf yn 1921, dywedodd yr Arglwydd Haldane (y Llywydd cyntaf) 'The primary purpose of the Association is to collect and bring together that common body of knowledge, and to diffuse it among magistrates everywhere'. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach nodwyd 600fed Pen-blwydd Statud Edward III a greodd y swydd Ynad Heddwch drwy roi, ym mis Tachwedd 1962, Siarter Brenhinol ac arfbais gyda'r arwyddair Ratione et Consilio. Mae amcanion y Gymdeithas wedi aros yn gyson. Yn gryno, yr amcanion hynny yw addysgu a chyfarwyddo ynadon yn y gyfraith, gweinyddu cyfiawnder, trin troseddwyr a'r dulliau gorau o atal troseddu. Yn 1922 dim ond 563 oedd nifer yr aelodau. Heddiw mae 28,000 o aelodau ac mae bron pob ynad newydd yn ymuno pan gânt eu penodi.
Hyfforddi Ynadon
Profodd y newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1948 a Deddf Ynadon Heddwch 1949 mor bellgyrhaeddol fel y cyflwynwyd system o Bwyllgorau Llysoedd Ynadon yn 1953 gyda chyfrifoldebau dros weinyddu Llysoedd Ynadon, cyflogi staff a darparu cyrsiau hyfforddiant ar gyfer Ynadon. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, roedd cryn bryder am eu methiant i gyflawni'u swyddogaeth hyfforddi yn ddigonol drwy ddulliau gwirfoddol ac, ar ôl trafodaeth gyda Chymdeithas yr Ynadon, a oedd erbyn hynny wedi ennill cryn arbenigedd yn ei swyddogaeth hyfforddi, cyflwynodd yr Arglwydd Ganghellor hyfforddiant gorfodol ar gyfer pob ynad newydd yn 1966. Arhosodd y cyfrifoldeb statudol dros hyn gyda Phwyllgorau'r Llysoedd Ynadon; ond bu raid i'r Gymdeithas ei hun orfod ymgymryd â rôl a oedd yn ehangu'n gyflym o ran hyrwyddo cynadleddau hyfforddi a threfnu cyrsiau hyfforddi. Yn genedlaethol, roedd Cymdeithas yr Ynadon yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi, fel cynadleddau preswyl gan amlaf, a oedd yn canolbwyntio ar faterion pryder cyfredol. Mae'r rhain yn gyfarfodydd dwys a chaled, a'u hamcan yw sefydlu a chynnal lefel dda o ymarfer ar draws yr ynadaeth. Mae ei 58 cangen hefyd yn cynnal rhaglenni hyfforddiant ar lefel leol.
Deddf Ynadon Heddwch 1968
Roedd y Ddeddf hon yn darparu ar gyfer lleihau oed ymddeol o'r fainc o 75 i 70, a chadarnhau safle'r Clerc fel cynghorydd cyfreithiol yr Ynadon. Mae'r ffaith bod 98% o'r holl achosion a ddaw gerbron llysoedd troseddol Cymru a Lloegr yn cael eu penderfynu gan Ynadon Heddwch heb unrhyw gymwysterau cyfreithiol gofynnol yn dal i synnu llawer o bobl. Mae'r cyfiawnhad yn seiliedig yn bennaf ar y berthynas a oedd wedi datblygu dros y blynyddoedd, ac a dderbyniodd awdurdod statudol yn 1968, rhwng yr Ynadon Heddwch a'u clerc - yr Ynadon Heddwch yn gyfrifol am eu canfyddiadau gyda golwg ar y ffeithiau ac o ran hygrededd tystion, y clerc yn eu cynghori ar y gyfraith a maint eu pwerau.
Llysoedd y Goron yn disodli'r Sesiynau Chwarter a'r Brawdlysoedd
Newidiodd Deddf Llysoedd 1971 y system gyfreithiol yn sylweddol, system a oedd wedi bodoli ers 600 mlynedd, drwy ddileu'r Brawdlysoedd a'r Sesiynau Chwarter a chreu Llys y Goron newydd. Mewn araith lywyddol i'r Gymdeithas, disgrifiodd yr Arglwydd Hailsham y newid hwn fel 'by far the biggest measure of law reform in this particular field for at least a century and, in some respects, since the institution of the assize system in the reign of Henry II'. Roedd yn ymwneud yn bennaf ag ad-drefnu'r llysoedd uwch, ond roedd yn bwysig i Ynadon Heddwch oherwydd ei fod yn ehangu'u pwerau drwy eu galluogi i ymarfer awdurdodaeth lawn yn Llysoedd y Goron dros Gymru a Lloegr.
Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi
O 1 Ebrill 2005, mae Ynadon wedi ymuno â'r Farnwriaeth broffesiynol i weithio gyda Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi gan mai'r gwasanaeth hwn sy'n gweinyddu pob llys yng Nghymru a Lloegr.
