English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Ar ôl y Treial Cwynion DVD Mynd i'r Llys Gosodiad y Llys Ieuenctid Gosodiad y Llys Ynadon Gwasanaeth rheithgor Hawlio Treuliau Iawndal Llys Ieuenctid Llys Sirol Llys y Goron Llys Ynadon Mentrau Cenedlaethol Cyfredol Mesurau Arbennig Rhagor o gymorth Taflenni Tystion Uned Gofal Tystion

Adnoddau pellach

Codau Ymarfer i Ddioddefwyr Trosedd Taith drwy'r Llys

Mentrau Cenedlaethol Cyfredol


Eiriolwyr Dioddefwyr
Siarter y Tystion

Eiriolwyr Dioddefwyr

Ym mis Mai 2005, roedd dogfen Gweinyddiaeth Cyfiawnder “Making a Difference: taking Forward Our Priorities” yn amlinellu blaenoriaethau'r Adran a oedd yn cynnwys rhoi llais iawn i ddioddefwyr a pherthnasau dioddefwyr troseddau fel llofruddiaeth a thrais, mewn achosion troseddol gyda hawl i dderbyn cynrychiolaeth ac eiriolaeth yn y llys.

Ar 1 Medi 2005 cyhoeddodd y Llywodraeth grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a chyhoeddodd y byddai'r cynllun yn cael ei dreialu mewn pum Canolfan Llys y Goron o fis Ebrill 2006 ymlaen:

The Old Bailey
Birmingham
Caerdydd
Manchester Crown Square
Winchester

Dechreuodd y cynllun peilot ar 24 Ebrill 2006 a bydd yn para am oddeutu deuddeg mis.

Bydd perthnasau'n derbyn cymorth gan Wasanaeth Erlyn y Goron neu dwrnai annibynnol neu gronfeydd data bargyfreithwyr i ddweud wrth y llys am effaith y trosedd. Mae protocol barnwrol yn amlinellu'r weithdrefn sydd i'w dilyn.

Yn ogystal â hynny, cynigir hyd at 15 awr o gyngor cyfreithiol rhad ac am ddim i berthnasau ar faterion personol a chymdeithasol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â marwolaeth eu perthynas gan dwrnai annibynnol.

^Brig

Siarter y Tystion

Datblygwyd Siarter y Tystion i ddweud wrth dystion sut y gallant ddisgwyl cael eu trin gan yr heddlu ac wedi hynny gan asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill (gan gynnwys y llysoedd) a chyfreithwyr os gofynnir iddynt roi tystiolaeth dros yr erlyniad neu'r amddiffyniad mewn llys troseddol. Mae hefyd yn amlinellu pa gymorth a chefnogaeth gallant ddisgwyl ei dderbyn ar hyd pob cam o'r broses gan y llysoedd, yr holl asiantaethau a'r cyfreithwyr dan sylw er nad yw'n trafod gwaith barnwyr ac ynadon.

Mae'r safonau gwasanaeth a amlinellir yn Siarter y Tystion yn berthnasol i bob tyst, ni waeth ai nhw yw'r dioddefwr ai peidio. Os ydynt yn ddioddefwr trosedd hefyd, mae ganddynt hawliau a amlinellir yn llawn yn y Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Trosedd. Ar gyfer y llysoedd, bydd y safonau'n canolbwyntio ar ddarparu gwybodaeth a sicrhau amgylchedd a mannau aros cyfforddus. Cyflwynir y Siarter fesul cam mewn tair ardal o fis Ebrill 2007 ymlaen, gan gynnwys gwerthusiad, a chaiff y Siarter ei chyflwyno i weddill Cymru a Lloegr o fis Ebrill 2008 ymlaen.

I gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar SCT ar-lein i weld manylion yr ymatebion i'r ymarfer ymgynghori gwreiddiol ar Siarter y Tystion.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 29 November 2007 11:47. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .