English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Ar ôl y Treial Cwynion DVD Mynd i'r Llys Gosodiad y Llys Ieuenctid Gosodiad y Llys Ynadon Gwasanaeth rheithgor Hawlio Treuliau Iawndal Llys Ieuenctid Llys Sirol Llys y Goron Llys Ynadon Mentrau Cenedlaethol Cyfredol Mesurau Arbennig Rhagor o gymorth Taflenni Tystion Uned Gofal Tystion

Adnoddau pellach

Codau Ymarfer i Ddioddefwyr Trosedd Taith drwy'r Llys

Iawndal


Beth yw Gorchymyn Iawndal?
Beth yw'r broses?
Gorfodi gorchmynion
Rhagor o Gwestiynau?
Rwy'n Ddioddefwr Trosedd - sut mae hawlio iawndal?
Y Cynllun Iawndal am Anafiadau Troseddol

Beth yw Gorchymyn Iawndal?

Cyflwynwyd gorchmynion iawndal am y tro cyntaf ym 1972 ac maent wedi bod yn opsiwn dedfrydu pwysig i'r llysoedd ers hynny — maent i fod i gosbi'r troseddwr a darparu rhywfaint o iawndal i'r dioddefwr; nid gwneud iawn am y golled yn gyfan gwbl yw eu nod.

Mae gwneud gorchymyn o'r fath yn cael gwared ar yr angen i ddioddefwyr siwio am iawndal drwy'r llysoedd sifil. Yn yr un modd ag wrth bennu unrhyw gosb ariannol, rhaid i'r llysoedd ystyried amgylchiadau'r trosedd a'r troseddwr, gan gynnwys ei allu i dalu'r swm a ddyfernir. Fel rheol caiff troseddwyr amser i dalu ac maent yn talu drwy randaliadau.

Pan fydd y llys wedi rhoi cosbau ariannol eraill i'r troseddwr, fel gorchymyn costau neu ddirwy, y gorchymyn iawndal yw'r flaenoriaeth.

^Brig

Beth yw'r broses?

Dim ond ar ôl i'r troseddwr dalu'r arian i'r llys y bydd dioddefwr yn derbyn yr iawndal, ac felly bydd y llys yn ymdrechu i sicrhau bod y troseddwr yn cydymffurfio â'r gorchymyn. Os ydych yn ddioddefwr trosedd treisgar a'ch bod wedi dioddef colled, difrod neu anaf, efallai y gallwch hawlio iawndal. Fodd bynnag, dyletswydd y llys yw ystyried a ddylid rhoi gorchymyn iawndal ai peidio.

^Brig

Gorfodi gorchmynion:

Gorfodir gorchmynion pan fydd y diffynnydd wedi methu â thalu'r swm sy'n ddyledus i'r dioddefwr. Mae gan y llys hawl i orfodi'r gorchymyn os bydd hyn yn digwydd. Y llys fydd yn penderfynu ar unrhyw gamau gorfodi a hynny ar ôl ystyried holl amgylchiadau'r achos. Dan ddeddfwriaeth gyfredol, gall y llysoedd orchymyn didynnu arian o enillion unigolyn a gyflogir neu, os yw'r troseddwr yn ddi-waith, o rai budd-daliadau gwladol; gallant hefyd godi gwarant atafaelu, sy'n cyfarwyddo beilïaid i atafaelu a gwerthu nwyddau'r troseddwr hyd at werth y gorchymyn iawndal ac unrhyw gostau cysylltiedig.

Dwy ffordd arall o orfodi yw clampio cerbyd y troseddwr a chynnwys y gorchymyn iawndal nas talwyd ar gofrestr o ddirwyon a dyfarniadau sy'n agored i'r cyhoedd ei archwilio, a all effeithio ar allu'r troseddwr i gael credyd, tai a gwasanaethau eraill. Cyfnod mewn caethiwed yw'r sancsiwn eithaf am beidio â thalu.

^Brig

Rhagor o Gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am orchmynion iawndal neu'r ffordd y caiff ei dalu i chi, dylech gysylltu â chlerc y llys. Peidiwch â chysylltu â'r troseddwr yn uniongyrchol.

Gwybodaeth ychwanegol am iawndal

^Brig

Rwy'n Ddioddefwr Trosedd - sut mae hawlio iawndal?

Y Cynllun Iawndal am Anafiadau Troseddol

Os cawsoch eich anafu o ganlyniad i drosedd o drais, cewch hawlio iawndal dan y Cynllun Iawndal am Anafiadau Troseddol.

Yr Awdurdod Iawndal am Anafiadau Troseddol sy'n gweinyddu'r cynllun iawndal am anafiadau troseddol.

Mae'r Cynllun yn caniatáu rhoi dyfarniadau ariannol:

Mae'r cynllun yn delio ag anafiadau a ddioddefwyd yng ngwledydd Prydain – hynny yw, Cymru, Lloegr a'r Alban. Mae gan Ogledd Iwerddon ei chynllun ei hun.

Gwybodaeth ychwanegol am y Cynllun Iawndal am Anafiadau Troseddol

Gall eich cangen leol o Gymorth i Ddioddefwyr egluro i chi sut mae hawlio. Gallant roi ffurflen gais a dogfennau cyfarwyddyd i chi a'ch helpu i lenwi'r ffurflen a chyflwyno'r cais.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 25 June 2007 12:02. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .