Ar ôl y Treial
Apeliadau gan y Diffynnydd
Dedfrydau rhy drugarog
Prawf - Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr
Y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol
Efallai y bydd gennych gwestiynau ar ôl y treial, er enghraifft, os credwch fod y ddedfryd a roddwyd i'r diffynnydd yn rhy drugarog neu os yw'r diffynnydd yn apelio yn erbyn ei euogfarn. Dyma rywfaint o wybodaeth gyffredinol am y sefyllfaoedd a allai godi a phwy y gallech chi gysylltu â nhw i gael rhagor o arweiniad a chefnogaeth.
Cymorth i Ddioddefwyr:
Os bydd angen i chi siarad â rhywun yn gyfrinachol ar ôl y treial, Cymorth i Ddioddefwyr yw'r elusen genedlaethol sy'n helpu pobl y mae trosedd wedi effeithio arnynt. Mae'n darparu cefnogaeth gyfrinachol ac am ddim i'ch helpu i ddelio â'ch profiad. Gellir cysylltu â'r elusen ar 0845 30 30 900 neu drwy ymweld â'i gwefan yn www.victimsupport.org/.
Mae gwirfoddolwyr hyfforddedig yr elusen wrth law i wrando. Os bydd angen rhagor o gymorth neu wybodaeth arnoch gall eich rhoi ar ben ffordd neu eich cyfeirio ymlaen.
Caiff diffynnydd gyflwyno apêl i farnwr mewn llys uwch naill ai yn erbyn y ddedfryd a roddwyd iddo (h.y. os yw'n dymuno lleihau'r ddedfryd) neu'r euogfarn ei hun (h.y. os yw'n credu iddo gael euogfarn ar gam). Rhaid cael rheswm iawn dros apelio a rhaid i'r diffynnydd gyflwyno apêl cyn pen 28 diwrnod o'i euogfarn neu ei ddedfryd. Fodd bynnag, gall wneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl i 28 diwrnod fynd heibio.
Caiff apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r Llysoedd Ynadon eu gwrando gan Lys y Goron, a all ailwrando'r achos. Adran Droseddol y Llys Apêl fydd yn delio â chaniatâd i apelio yn erbyn penderfyniadau Llys y Goron.
Dan God Ymarfer y Dioddefwyr, os bydd unigolyn a gafwyd yn euog o drosedd yn y Llys Ynadon mewn perthynas ag ymddygiad troseddol perthnasol yn rhoi hysbysiad o apêl yn erbyn yr euogfarn neu'r ddedfryd, rhaid i staff y Llys Ynadon hysbysu'r Unedau Gofal Tystion ar y cyd rhwng yr heddlu a GEG cyn pen diwrnod gwaith o gyflwyno'r hysbysiad.
Cyn pen diwrnod gwaith ar ôl i'r llysoedd roi gwybod i'r Uned Gofal Tystion bydd yr Uned honno wedyn yn rhoi gwybod i'r holl ddioddefwyr am yr apêl.
Pan fydd y Llys Apêl yn caniatáu i apêl fwrw ymlaen, rhaid i'r llys hwnnw roi gwybod i'r Uned Gofal Tystion cyn pen diwrnod gwaith o roi'r caniatâd hwnnw. Mae gan yr Uned Gofal Tystion gyfrifoldeb i roi gwybod i'r dioddefwyr cyn pen pum niwrnod gwaith ar ôl cael gwybod y rhoddwyd caniatâd i apelio.
Bydd eich Uned Gofal Tystion leol yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi os bydd y sawl a gyflawnodd drosedd yn eich erbyn yn cyflwyno apêl. Gall hefyd helpu dioddefwyr troseddau treisgar i hawlio iawndal dan y Cynllun Iawndal am Anafiadau Troseddol.
Ceir rhai amgylchiadau pan fydd gan y Twrnai Cyffredinol bwer i gyfeirio dedfrydau sy'n ymddangos iddo fel dedfrydau rhy drugarog at y Llys Apêl. Fodd bynnag, nid yw'r pwerau hyn yn berthnasol i bob dedfryd, dim ond y rheini a nodir yn Neddf Cyfiawnder Troseddol 1988 a throseddau eraill a gynhwyswyd pan estynnwyd pwerau'r Twrnai Cyffredinol ym 1994, 1995 a 2000.
Mae gan Wasanaeth Erlyn y Goron (GEG) drefniadau ar gyfer ystyried achosion pan allai'r ddedfryd fod yn rhy drugarog.
Gwybodaeth ychwanegol am ddedfrydau rhy drugarog
Prawf - Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr
Pan ddedfrydir y diffynnydd am 12 mis neu ragor am drosedd treisgar neu rywiol, gan gynnwys troseddwyr sydd ag anhwylder meddwl (dan rai amgylchiadau) mae gan fyrddau prawf lleol gyfrifoldeb i:
- gymryd pob cam rhesymol i ganfod a yw'r dioddefwr yn dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch pa amodau trwydded neu ofynion goruchwylio (pan fydd y troseddwr yn ifanc) y dylai'r troseddwr orfod eu dilyn pan gaiff ei ryddhau o'r carchar a/neu amodau rhyddhau o'r ysbyty. Dylai'r Gwasanaeth Prawf anfon y sylwadau hyn ymlaen at y rheini sy'n gyfrifol am benderfynu ynghylch rhyddhau'r carcharor neu'r claf;
- trosglwyddo unrhyw wybodaeth i'r dioddefwr ynghylch a fydd y carcharor neu'r claf yn rhwym wrth unrhyw amodau neu ofynion pan gaiff ei ryddhau a rhaid rhoi manylion i'r dioddefwr ynghylch unrhyw amodau neu ofynion sy'n ymwneud â chyswllt â'r dioddefwr neu ei deulu a'r dyddiad y daw unrhyw orchymyn gwahardd, cyfarwyddyd cyfyngu neu gyfarwyddyd gwahardd i ben;
- rhoi unrhyw wybodaeth arall a ystyrir yn briodol ynghylch holl amgylchiadau'r achos i'r dioddefwr. Yn gyffredinol, bydd dioddefwyr yn derbyn gwybodaeth ar adegau allweddol yn ystod dedfryd y troseddwr, er enghraifft, symud i garchar categori is neu ryddhau o garchar dros dro ar drwydded.
Gwybodaeth ychwanegol am eich gwasanaeth prawf lleol
Y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol
Caiff diffynyddion sy'n teimlo y camweinyddwyd cyfiawnder yn eu herbyn wneud cais i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol ar ôl iddynt ddefnyddio pob hawl apelio arferol.
Mae'r Comisiwn yn gorff cyhoeddus annibynnol a sefydlwyd i ymchwilio i honiadau o gamweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r Comisiwn yn asesu a ddylid cyfeirio euogfarnau neu ddedfrydau at y Llys Apêl ai peidio.
Dan God Ymarfer y Dioddefwyr os bydd euogfarn neu ddedfryd mewn perthynas ag ymddygiad troseddol perthnasol yn cael ei adolygu gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol a chan ystyried yr holl amgylchiadau, mae hi'n debygol y daw'r adolygiad at sylw'r dioddefwr, rhaid i'r heddlu hysbysu'r dioddefwr o leiaf ddeg diwrnod gwaith ar ôl i'r heddlu gael gwybod am yr adolygiad.
Gwybodaeth ychwanegol am y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol
