Safonau
Y safonau y gallwch eu disgwyl gan y Morlys a'r Llys Masnachol
Pan ddewch i'n swyddfeydd.
- Bydd aelod o staff hawdd ei adnabod yn eich trin yn gwrtais ac yn gymwynasgar bob amser
- Ni fydd yn rhaid i chi aros mwy na 10 munud cyn cyrraedd ein cownter i drafod eich busnes
- Os bydd yn rhaid i chi aros dros 10 munud, gofynnwch am gael siarad â rheolwr y swyddfa honno. Os na fydd y rheolwr yno, gofynnwch am gael siarad â Rheolwr y Llys, Keith Houghton
- Bydd yr ardaloedd cyhoeddus yn lân ac yn daclus
- Bydd ystafell neu ardal ar wahân ar gael os dymunwch drafod eich busnes yn breifat
Pan fyddwch yn cysylltu â'n swyddfeydd ar bapur neu drwy e-bost.
- Anfonir ateb llawn neu ateb dros dro i'ch llythyr cyn pen 5 niwrnod gwaith
- Anfonir ateb llawn atoch cyn pen 10 diwrnod gwaith beth bynnag sy'n digwydd.
- Anfonir ateb llawn neu ateb dros dro i'ch neges e-bost cyn pen 3 diwrnod gwaith
- Anfonir ateb llawn atoch cyn pen 7 niwrnod gwaith beth bynnag sy'n digwydd.
Pan fyddwch yn cysylltu â'n swyddfeydd dros y ffôn
- Atebir eich galwad cyn pen 30 eiliad
- Cewch wybod yn gwrtais pa swyddfa rydych wedi'i chyrraedd ac enw'r aelod o staff sy'n ateb eich galwad
^ Brig
|
