English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg


Gwybodaeth ychwanegol

Adroddiadau Canllawiau Canllawiau'r Llysoedd Cwsmeriaid ag anableddau Cyfnodau aros am wrandawiad (ar gyfartaledd) Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod Ein Safonau Ffurflenni'r Llys Masnachol Ffurflenni'r Morlys Gwybodaeth am leoliad Llys y Morlys Gwybodaeth am leoliad y Llys Masnachol Gwybodaeth am Lys Masnach Llundain Mynegai'r Morlys a'r Llys Masnachol Rhestr Ddyddiol Rhestr o Farnwyr

Adnoddau pellach

Mynegai achosion y Llys Masnachol Mynegai achosion y Morlys

Y Morlys, y Llys Masnachol a Llys Masnach Llundain


Mae pob llys yn unigol a chaiff ei lywodraethu gan ei ran ei hun yn y Rheolau Treniadaeth Sifil.

Mae nodiadau a chyfarwyddyd am bob llys hefyd ar gael.



Y Morlys


Y Llys Masnachol


Llys Masnach Llundain



Er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon, caiff y tri llys eu gweinyddu gan un swyddfa llys, sydd yn:


Llawr Isaf y Bloc Dwyreiniol
Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL



Swyddfa Restru - EB 09

  • Pennu gwrandawiadau a threialon gerbron Barnwyr
  • Darparu Bwndeli Rheoli Achosion, a phapurau/bwndeli eraill ar gyfer gwrandawiadau a threialon gerbron barnwyr.
  • Diweddaru Bwndeli Rheoli Achosion a Bwndeli Gwrandawiadau.
  • Chwilio drwy'r Gofrestr Hawliadau.
  • Darparu taflenni monitro cynnydd, adroddiadau dulliau amgen o ddatrys anghydfodau a gohebiaeth gysylltiedig.
  • Darparu ceisiadau a hysbysiadau ar gyfer estyniadau amser ac amrywiadau i amserlenni drwy lythyr.

Y Gofrestrfa - EB 13

  • Cychwyn Ffurflenni Hawlio a chiesiadau.
  • Codi Gwarantau Arestio ar gyfer arestio llongau a darparu rhybuddiadau yn erbyn arestio neu ryddhau.
  • Cofnodi dyfarniadau drwy ddiffyg.
  • Darparu pob dogfen arall ar gyfer ei ffeilio.
  • Darparu ceisiadau heb rybudd, gorchmynion cydsynio a gorchmynion drafft ar gyfer cymeradwyaeth y farnwriaeth, a'u casglu wedi hynny.
  • Sicrhau y caiff copïau o orchmynion cymeradwy eu setlo.
  • Gofyn am dystysgrifiau ar gyfer eu defnydddio dramor. Archwilio dogfennau a llungopïo ceisiadau.
  • Pennu gwrandawiadau gerbron Meistr Miller (Cofrestrydd y Morlys) mewn achosion Morlys neu Fasnachol oni bai fod yr amcangyfrif dros ddiwrnod pan ddylid gwneud cais i'r Meistr ei hun yn Ystafell E121.
  • Darparu bwndeli ar gyfer gwrandawiadau gerbron Meistr Miller. Talu ffioedd cyflwyno.

EB15

  • Darparu atodlenni talu ar gyfer talu o'r cronfeydd yn y Llys (Ffurflen 200s)
^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 21 May 2008 16:08. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .