Profiad Gwaith
Dim ond i fyfyrwyr rhwng 14 ac 16 oed y gall y Llysoedd Barn Brenhinol gynnig profiad gwaith. Gallwn gynnig nifer cyfyngedig o leoedd ar unrhyw un adeg, felly cysylltwch â'r llys mewn da bryd cyn dyddiad y lleoliad. Lleoedd gweinyddol sydd ar gynnig, ac ychydig iawn o brofiad cyfreithiol y byddent yn ei ddarparu.
Os oes gennych ddiddordeb mewn lleoliad, ysgrifennwch at y cyfeiriad isod gan gynnwys enw a chyfeiriad eich ysgol, manylion cyswllt cydlynydd profiad gwaith yr ysgol a'r dyddiadau y dymunwch fynychu:
Tîm Prosiectau Hyfforddi a Chwsmeriaid (Training & Customer Projects Team)
Ystafell TM8.13 Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain, WC2A 2LL
Ffôn: 020 7947 7731
Ffacs: 020 7947 7656
Dylai unrhyw un sy'n ceisio profiad gwaith cyfreithiol gysylltu â Chyngor y Bar, a gallant eich rhoi mewn cysylltiad gyda Siambrau'r Bargyfreithwyr a allai eich cynorthwyo:
Ymwelwch â http://www.pupillages.com/ gan fod y wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am siambrau sy'n cynnig tymor prawf/tymor prawf byr.
Os oes gennych ddiddordeb mewn marsialu dylech gysylltu â'ch Llys y Goron lleol a gofyn a oes unrhyw Farnwr Cylchdaith yn cymryd marsial newydd neu, os ydych chi'n gysylltiedig â Brawdlys, dylech gysylltu â barnwr trwyddynt. Fel arfer, dylai ymgeiswyr fod wedi cwblhau naill ai'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu Gwrs Galwedigaethol y Bar cyn gwneud cais ar gyfer marsialu.
