Llysoedd Barn Brenhinol - Cwestiynau Cyffredin a ofynir yn aml
C: Faint o'r gloch mae'r Llysoedd Barn Brenhinol ar agor?
A: Mae'r adeilad ar agor i'r cyhoedd rhwng 09.00 a 16.30 ac mae'r swyddfeydd ar agor rhwng 10:00 a 16:30. Fel arfer, mae'r llysoedd yn eistedd o 10:30 tan 16:30 gyda thoriad byr rhwng 1300 a 1400 am ginio.
C: Beth yw'r gorsafoedd tanddaearol agosaf?
A: Temple ar y llinellau District a Circle, Holborn ar y llinellau Central a Piccadilly a Chancery Lane ar y llinell Central.
C: Pa fysiau sy'n mynd i'r Llysoedd Barn Brenhinol?
A: Mae bysiau rhif 4, 11, 15, 23, 26, 76, 172 a 341 yn stopio y tu allan i'r Llysoedd Barn Brenhinol. Mae bysiau rhif 1, 59, 68, 91, 168, 171, 188, 243, 521 ac X68 yn stopio ar Kingsway ac Aldwych. Ewch i http://www.tfl.gov.uk/ am wybodaeth fanylach am deithio.
C: Alla' i barcio yn y Llysoedd Barn Brenhinol?
A: Os oes gennych chi fathodyn anabl, gallwch barcio drwy drefnu ymlaen llaw, ar ôl rhoi 24 awr o rybudd. Mae angen i chi anfon ffacs (yn ddelfrydol, drwy eich twrnai ac ar bapur gyda'u pennyn hwy) gyda manylion eich enw, rhif cofrestru eich car, rhif eich bathodyn anabl a rhif y Llys yr ydych yn ei fynychu i 020 7947 6622. Mae hyn yn ein galluogi i drefnu lle parcio ichi yn y maes parcio agosaf at y Llys. Os na allwch anfon ffacs, gallwch ffonio 020 7947 6506 i holi am y gweithdrefnau.
C: Lle mae'r maes parcio cyhoeddus agosaf?
A: Mae clociau parcio yn Lincolns Inn Fields a Maltravers St. Mae'r maes parcio NCP agosaf yn Shoe Lane (oddi ar New Fetter Lane), ac mae rhai ychwanegol yn Drury Lane a Holborn.
C: Pa gymorth sydd ar gael yn y Llysoedd Barn Brenhinol?
A: Mae'r Uned Cefnogaeth Bersonol ar gael i'ch helpu tra'ch bod ar y safle, ond ni chânt roi cyngor cyfreithiol i chi. Maent yn cynnig nifer eang o wasanaethau megis sut i ddod o hyd i'ch cyrchfan, ac maent hefyd yn cynnig cefnogaeth gyffredinol. Gallwch ddarganfod mwy am eu gwasanaethau drwy ffonio 020 7947 7701 neu fynd i http://www.thepsu.co.uk/. Hefyd, mae'r Ganolfan Cyngor Ar Bopeth (0845 120 3715) yn y safle ac ar agor 10 - 1 a 2 - 4 i dderbyn apwyntiadau. Mae ffonau Llinell Gymorth o gwmpas y Llysoedd Barn Brenhinol, lle gallwch gysylltu â'r Uned Cefnogaeth Bersonol, Diogelwch, a'r ddesg Ymholiadau.
C: A oes unrhyw gymorth penodol ar gael i'r rhai hynny sydd â phroblemau ariannol?
A: Mae'r Ganolfan Cyngor Ar Bopeth yn cynnig desg gyngor Llys Methdaliad ar ddydd Llun hyd ddydd Gwener rhwng 10:00 ac 13:00. Mae wedi'i lleoli gyferbyn â Llys 52 ar lawr cyntaf Adeilad Thomas More ac mae'n gweithredu ar sail cyntaf i'r felin.
C: Lle alla' i weld ym mha lys mae fy achos wedi'i restru?
A: Yn y Ddesg Ymholiadau yn y Brif Neuadd neu ar wefan GLlEM (www.hmcourts-service.gov.uk/cms/courthearings.htm )
C: Sut ydw i'n dod o hyd i'r ystafell y mae ei hangen arnaf?
A: Llythrennau sy'n cyfateb i'r adeilad yw rhagddodiad enw'r ystafell, a rhif y llawr yw digid cyntaf rhif yr ystafell. E.e.
C: Gaf i fynd i eistedd mewn llys neu gerdded o gwmpas yr adeilad?
A: Mae adeiladau'r Llysoedd Barn Brenhinol ar agor i'r cyhoedd. Mae'r llysoedd ar agor i aelodau'r cyhoedd sydd dros 14 mlwydd oed, oni bai bod rhybudd ar y drysau'n dweud 'In Camera' neu 'In Private'. Gofynnir i grwpiau mawr o fwy na 12 o bobl rannu'n grwpiau llai a mynd i wahanol lysoedd er mwyn peidio ag achosi gormod o aflonyddwch.
C: Ble alla' i brynu lluniaeth?
A: Mae Café 26 ar agor o 9 tan 4 rhwng dydd Llun a dydd Gwener ac mae'n gwerthu diodydd poeth ac oer a byrbrydau. Ceir gwasanaeth troli yn Queens Building a West Green. Hefyd, ceir peiriannau gwerthu yn Queens Building, wrth Café 26, East Block North, East Block South (islaw'r Ystafell Ffioedd), St Dunstans House a Clifford's Inn.
C: A oes cyfleusterau newid babanod yn y Llysoedd Barn Brenhinol?
A: Oes, ceir cyfleusterau yn Queens Building, wrth y Brif Neuadd ac yn islawr St Dunstans House.
C: A oes teithiau cyhoeddus o gwmpas y Llysoedd Barn Brenhinol?
A: Oes. Cynhelir teithiau cyhoeddus yn y Llysoedd Barn Brenhinol ar ddydd Llun a dydd Mawrth cyntaf pob mis, heblaw mis Ionawr. Mae'r teithiau rhwng 11am ac 1pm a rhwng 2pm a 4pm ar y ddau ddiwrnod. Y gost yw £6 y pen a gellir archebu lle drwy Siop y Llysoedd Barn Brenhinol yng nghyntedd y Brif Fynedfa, Strand neu drwy ffonio 020 7947 7684/6506.
C: Ydych chi'n cynnig teithiau am ddim i ysgolion?
A: Ydyn. Cynhelir teithiau ar gyfer ysgolion a phrifysgolion ar drydydd dydd Mercher pob mis yn unig. Rhaid i geisiadau ddod yn uniongyrchol o'r sefydliad addysgol. Ffoniwch 029 7947 7741/7729 am fwy o wybodaeth.
C: Beth ddylwn i ei wneud os caf ddamwain neu os bydd angen triniaeth Cymorth Cyntaf arnaf tra'r wyf yn ymweld â'r Llysoedd Barn Brenhinol?
A: Cysylltwch ag aelod o'r Tîm Diogelwch (0207-947-6260) neu gofynnwch i aelod staff GLlEM wneud hyn ar eich rhan. Byddant yn rhoi Triniaeth Cymorth Cyntaf ac yn trefnu ar gyfer llenwi Ffurflen Cofnodi Damwain.
C: Beth fyddai'n digwydd pe bai rhaid gwacáu'r adeilad mewn argyfwng?
A: Mae gan y Llysoedd Barn Brenhinol system larwm llais awtomatig drwy'r adeiladau i gyd, sy'n rhoi cyfarwyddiadau ar weithdrefnau argyfwng.
C: Pa mor 'wyrdd' yw'r Llysoedd Barn Brenhinol?
A: Rydym yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o helpu'r amgylchedd drwy'r amser. Caiff cetrysau inc, tonydd, drymiau a phapur gwyn eu hailgylchu bob wythnos. Ym mis Medi (dyddiad i'w gadarnhau) byddwn yn cyflwyno cynllun ailgylchu cymysg, sy'n cynnwys papur, cardfwrdd, tun a phlastig, a bydd hwn ar gael mewn mannau cyhoeddus allweddol drwy'r holl adeiladau. Defnyddir dyfeisiau arbed ynni megis synwyryddion golau, tapiau dŵr gwthio i lawr a monitro tymheredd cyn belled ag sy'n rhesymol ymarferol.
C: A oes cyfleusterau Cynadledda Fideo ar gael yn y Llysoedd Barn Brenhinol?
A: Mae Cynadledda Fideo ar gael i'w ddefnyddio gydag achosion yn y Llysoedd Barn Brenhinol. I gael gwybodaeth am sut i archebu'r Ystafell Cynadledda Fideo, defnyddiwch y ddolen sydd wedi'i rhestru dan Gwybodaeth Mynediad Llysoedd Barn Brenhinol neu cysylltwch â'r Uned Cefnogi Llety ar 020 7947 7609 / 6357.
C: A oes cyfleusterau ar gael imi gynnal trafodaethau preifat gyda fy nhîm Cyfreithiol?
A: Mae nifer o "Ystafelloedd Ymgynghori" ar gael i'w llogi drwy'r Llysoedd Barn Brenhinol i gyd. I gael gwybodaeth am sut i archebu ystafell ymgynghori, defnyddiwch y ddolen sydd wedi'i rhestru dan Gwybodaeth Mynediad Llysoedd Barn Brenhinol neu cysylltwch â'r Uned Cefnogi Llety ar 020 7947 7609 / 6357.
C: A oes unrhyw gyfleusterau ar gael, o fewn y Llysoedd Barn Brenhinol, lle gallaf gael llungopïau o ddogfennau?
A: Mae llungopïau i'r cyhoedd ar gael gan "Uned Atgynhyrchu" y Llysoedd Barn Brenhinol. I gael gwybodaeth am y cyfleuster hwn, defnyddiwch y ddolen sydd wedi'i rhestru dan Gwybodaeth Mynediad y Llysoedd Barn Brenhinol neu cysylltwch â'r uned ar 0207 947 6166.
