Pwyllgor Sefydlog Yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg
Ym mis Gorffennaf 1999, sefydlwyd Pwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr iaith Gymraeg gan y rhai oedd bryd hynny yn Farnwyr Llywyddol Cylchdaith Cymru a Chaer, y sawl a oedd bryd hynny yn Weinyddwr y Gylchdaith a'r Cwnsler Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Ysgrifennydd Parhaol Adran yr Arglwydd Ganghellor (sef y Weinyddiaeth Cyfiawnder erbyn hyn) a Phennaeth y Gwasanaeth Llys.
Pwrpas y Pwyllgor Sefydlog yw sicrhau bod y gwahanol gyrff sy'n ymwneud â gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru yn mabwysiadu'r un polisïau tuag at yr iaith Gymraeg a gweinyddu Deddf Iaith Gymraeg 1993. Mae'n gyfrwng i gyfyngu ar gostau ac anawsterau ac i sicrhau bod arferion priodol ac unffurf ar waith.
Am fwy o wybodaeth am y pwyllgor yma cysylltwch â Margaret Davies - ebost
Aelodau Pwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg
| Yr Anrhydeddus Mr Ustus Lloyd Jones Barnwr Llywyddol Cylchdaith Cymru a Chaer | Cadeirydd |
| Ei Hanrhydedd y Barnwr Eleri Rees | Barnwr Cyswllt yr Iaith Gymraeg |
| Ei Anrhydedd y Barnwr Michael Farmer CF | Dirprwy Farnwr Cyswllt yr Iaith Gymraeg |
| Nerys Arch | Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cynulliad Cymru |
| Michael Bird | Cadeirydd Rhanbarthol, Tribiwnlys Cyflogaeth |
| Clare Pillman | Cyfarwyddwr Cymru (GLlEM Cymru) |
| Margaret Davies | (Ysgrifenyddes) Swyddog Cyswllt Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi |
| Lyndon Hobbs | Gwasanaeth Tribiwnlysoedd |
| Elwen Evans CF | Bar |
| Huw Gapper | Bwrdd yr Iaith Gymraeg |
| Melanie Hourihane | Gwasanaeth Tribiwnlysoedd |
| Michael S Howells | Swyddfa'r Crwner |
| Hywel Hughes | Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi |
| Niclas Parry | Cymdeithas y Cyfreithwyr |
| Margaret Price | Uned Iaith Gymraeg, Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi |
| Shirley Hodges | Adran Gwaith a Phensiynau |
| Iolo Thomas | Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi |
| John Turton | Heddlu Gogledd Cymru |
| Heather Wilcox | Cyngor y Tribiwnlysoedd |
| Catrin Williams | CAFCASS |
| Hilary Williams | Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol |
| Mark Williams | Llywodraeth Cynulliad Cymru |
| Owen Williams | Barnwr Rhanbarth |
| Chris Woolley | Gwasanaeth Erlyn y Goron, De Cymru |
| Meic Raymant | Heddlu Gogledd Cymru |
| Dylan Hughes | Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cynulliad Cymru |
