English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Arweiniad i'r Llys Patentau Cyfarwyddyd Ymarfer Y Llys Patentau Dolenni Defnyddiol Dyddiadur Y Llys Patenatau

Y Llys Patentau


Arweiniad i'r Llys Patentau- Cyhoeddwyd 12 Tachwedd 2003

Drwy Awdurdod Canghellor yr Uchel Lys

1. Rhagarweiniad

Mae'r arweiniad cyffredinol sy'n berthnasol i faterion yn yr Adran Siawnsri, fel y'u pennir yn yr Arweiniad i Siawnsri, hefyd yn berthnasol i achosion patent oni chânt eu crybwyll yn benodol isod. "Mae Cyfarwyddyd Ymarfer (CY) 63" yn cyfeirio at y Cyfarwyddyd Ymarfer - Hawliadau Patent ac Eiddo Deallusol Arall sy'n ategu Rheolau Trefniadaeth Sifil (RhTS) Rhan 63. Mae'r Arweiniad hwn yn berthnasol fel y bo'n briodol i'r Llys Patentau a'r Llys Sirol Patentau.

2. Cyffredinol

Mae achosion yn y Llys Patentau'n cael eu dyrannu i'r drefn aml-drac ( RhTS 63.7(1)). Tynnir sylw at RhTS 63(7) a'i Gyfarwyddyd Ymarfer cysylltiedig (rheoli achosion).

3. Y Barnwyr Patentau

Nodir enwau'r Barnwyr Patentau a'u clercod isod.

Pumfrey J (Clerc: Richard Trout - ffôn 020 7947 7482, ffacs 020 7947 6593, e-bost)

Patten J (Clerc: Anne Bateman - ffôn 020 7947 7617, ffacs 020 7947 6650, e-bost)

Lewison J (Clerc: Clerc dros dro - ffôn 020 7947 6039, ffacs 020 7947 6894)

Mann J (Clerc: Amanda Dennis - ffôn 020 7947 7964, ffacs 020 7947 6739, e-bost)

Kitchin J (Clerc: Gillian Tarleton - ffôn 020 7947 6518, ffacs 020 7947 6439, e-bost)

^Brig

4. Y Llys Sirol Patentau

Y Llys Sirol Patentau
Gellir cyfeirio ffurflenni hawliadau ar gyfer y Llys Sirol Patentau ac ymholiadau cyffredinol ynghylch y drefn, ffioedd a ffurflenni at:

The Specialist Section
Central London Civil Justice Section
26 Park Crescent
Llundain
W1N 4HT

Ffôn: 020 7917 7821
Ffacs: 020 7917 7935

Gellir cyfeirio ymholiadau ynghylch rhestru ac achosion patent sydd eisoes ar waith at:

Clerk His Honour Judge Fysh QC
Field House
15-25 Breams Buildings
Llundain
EC4A 1DZ

Ffôn: 020 7073 4251
Ffacs: 020 7073 4253

5. Trefniadau ar gyfer Rhestru

Swyddog Rhestru'r Siawnsri sy'n gyfrifol am restru'r holl waith yng nghyswllt patentau.

Lleolir Swyddog Rhestru'r Siawnsri a'i staff yn Ystafell WG04 yn y Llysoedd Barn Brenhinol. Mae'r swyddfa ar agor i'r cyhoedd rhwng 10.00am a 4.30pm bob diwrnod. Y rhifau ffôn yw 0207 947 6778/6690 a'r rhif ffacs yw 0207 947 7345.

Ymdrinnir ag apwyntiadau i drefnu treialon a cheisiadau yng nghwrs achos ar ddydd Llun a dydd Iau rhwng 11.00am a 12.00 hanner dydd. Dylai'r ceisydd yn gyntaf gael apwyntiad gan Swyddog Rhestru'r Siawnsri a hysbysu'r holl bartïon sydd â diddordeb o'r dyddiad a'r amser a drefnir.

Gellir rhoi ceisiadau byr (cyn i ddiwrnod arferol y llys gychwyn am 10.30am) a threfnu dyddiad y gwrandawiad unrhyw bryd drwy fynychu Swyddfa Rhestru'r Siawnsri.

Rhestrir y rhain ar gyfer gwrandawiad cyn i ddiwrnod arferol y llys ddechrau am 10.30, er enghraifft am 9.30 neu 10 a.m. Tynnir sylw at Gyfarwyddyd Ymarfer 63.6. Mae'n hanfodol rhoi amcangyfrif cywir o'r amser ac efallai y cyflwynir gilotîn ar gyflwyniadau llafar os credir y bydd yn cymryd mwy o amser na'r amcangyfrif a roddwyd.

^Brig

6. Eisteddiadau Medi

Bydd y Llys Patentau yn ymdrechu i eistedd ym mis Medi, os yw'r partïon am i hynny ddigwydd a'r achos yn un brys.

7. Apeliadau gan Reolwr Cyffredinol Patentau, Nodau Masnach a Dyluniadau

Patentau

Drwy statud, dim ond yn yr Uchel Lys y derbynnir y rhain ac nid yn y Llys Sirol Patentau. Erbyn hyn fe'u rheolir gan RhTS Rhan 52 (gweler RhTS 63.17). Does dim angen cael caniatâd i apelio. Sylwch fod yn rhaid i'r Rheolwr dderbyn Rhybudd o Apêl ( RhTS 63.17(3)). Yr apelydd sy'n cynnal yr apêl a dylai ef neu ei gynrychiolydd o fewn pythefnos i gyflwyno'r apêl, gysylltu â Swyddog Rhestru'r Siawnsri er mwyn trefnu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad. Rhaid i'r apelydd sicrhau bod yr apêl yn cael ei osod i lawr cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl ar ôl cyflwyno'r rhybudd o apêl. Atgoffir partïon bod y darpariaethau ynghylch cyflwyno dadleuon fframwaith yn berthnasol i apeliadau oddi wrth y Rheolwr.

Nodau Masnach

Aseinir y rhain i'r Adran Siawnsri yn gyffredinol, nid i'r Llys Patentau ( RhTS 63.17(2)). Does dim angen cael caniatâd i apelio.

^Brig

Apeliadau ar Bapur yn unig

Bydd y Llys yn gwrando apeliadau ar sail y papurau'n unig os mai dyna yw dymuniad y partïon. Os yw'r apelydd yn fodlon i'r apêl gael ei chlywed ar bapur yn unig, dylai gysylltu â'r atebydd a'r Swyddfa Batentau cyn gynted ag y bo modd i ganfod a oes cytundeb ynghylch y ffordd honno o weithredu. Os oes, dylid hysbysu Swyddfa Rhestru'r Siawnsri cyn gynted ag y bo modd. Dylai'r partïon (a Swyddog Rhestru'r Siawnsri os yw'n dymuno) gydgysylltu â'i gilydd i baratoi cyflwyniadau ysgrifenedig a bwndeli'n gynnar a rhoi'r holl ddeunyddiau angenrheidiol i'r llys.

Apeliadau ynghylch Dyluniadau Cofrestredig

Mae'r rhain yn mynd i'r Tribiwnlys Apêl Dyluniadau Cofrestredig. Un o'r barnwyr patent yn eistedd fel tribiwnlys fydd hwn. Nid yw'r RhTS a'r CY yn berthnasol i'r apeliadau hyn. Pan fo angen gwneud apêl o'r fath, dylid cysylltu'n uniongyrchol â Swyddog Rhestru'r Siawnsri.

8. Ceisiadau heb Rybudd

Dylai parti sy'n dymuno gwneud cais heb rybudd i'r atebydd(wyr) gysylltu â Swyddfa Rhestru'r Siawnsri. Mewn achosion argyfwng, adeg gwyliau neu y tu allan i oriau llys arferol, dylid cyflwyno'r cais i'r Barnwr Siawnsri ar ddyletswydd. Yn y Llys Sirol Patentau, dylid cysylltu â Swyddfa'r Llys.

^Brig

9. Dogfennau

(a) Mae bwndelu'n bwysig iawn a dylid ei wneud mewn modd deallus. Dylid dilyn yr arweiniad cyffredinol a roddir yn Atodiad 2 yr Arweiniad i Siawnsri. Efallai y bydd yn rhaid i dwrneiod neu asiantau patent na fyddant yn gwneud hyn yn gorfod esbonio pam ac efallai y cânt eu cosbi'n bersonol drwy gostau.

(b) Dylai copïau o ddogfennau y cyfeirir atynt mewn datganiad o achos (e.e. hysbyseb y cyfeirir ati mewn ffurflen honni bod patent wedi'i dorri neu ddogfennau a ddyfynnir mewn Seiliau Annilysrwydd) gael eu cyflwyno gyda'r datganiad o achos. Pan fo angen cyfieithu unrhyw ddogfen o'r fath, dylid cyflwyno'r cyfieithiad ar yr un pryd.

(c) Lle gwyddys pa Farnwr fydd yn cymryd yr achos, dylid cyflwyno'r papurau ar gyfer yr achos yn uniongyrchol i glerc y Barnwr hwnnw. Dylai dogfennau o bwys a ffacsiwyd (ac yn arbennig dadleuon fframwaith) gael eu dilyn gan gopïau print uniongyrchol glân. Trwy gytundeb, gellir anfon dogfennau hefyd dros yr e-bost at glerc y Barnwr dan sylw.

(d) Mae'r ddau barti'n gyfrifol am sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol yn cael eu cyflwyno i glerc y Barnwr a fydd yn gwrando'r achos erbyn canol dydd dau ddiwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad onid oes cyfnod hwy neu fyrrach wedi'i orchymyn gan y barnwr neu wedi'i bennu gan yr Arweiniad hwn.

(e) Mae'r Barnwyr yn gofyn bod yr holl ddogfennau pwysig hefyd yn cael eu darparu ar ddisg mewn fformat hwylus i'w ddefnyddio gan y Barnwr (fel arfer Microsoft Word 7 for Windows). Bydd y rhain yn cynnwys dadleuon fframwaith, datganiadau'r tystion ac adroddiadau arbenigwyr.

^Brig

10. Trefniadaeth Hwylus

(a) Natur trefniadaeth hwylus.

Trefniadaeth hwylus yw un, ac eithrio ac ar wahân i'r hyn a orchmynnir fel arall:

  1. lle mae'r holl dystiolaeth ffeithiol ac arbenigol ar bapur;
  2. lle nad oes yn rhaid dadlennu dogfennau;
  3. lle nad oes unrhyw arbrofion;
  4. lle caniateir croesholi dim ond ar unrhyw destun neu destunau lle bo hynny'n angenrheidiol a'r croesholi wedi'i gyfyngu i'r testunau hynny;

lle bo cyfanswm cyfnod y treial wedi'i bennu ac fel arfer ni fydd hynny'n fwy nag un diwrnod;

  1. lle bydd dyddiad y treial yn cael ei bennu pan wneir y Gorchymyn am dreial hwylus ac fel arfer fe'i cynhelir oddeutu chwe mis ar ôl hynny.

Mae trefniadaeth hwylus hefyd yn cynnwys amrywiadau bach ar yr uchod (e.e. dadlennu wedi'i gyfyngu i fater cyfyngedig).

(b) Meini prawf ar gyfer trefniadaeth hwylus

Bydd y llys yn gorchymyn trefniadaeth hwylus drwy gytundeb neu, os na cheir cytundeb, lle bo'r prif amcan yn awgrymu bod hynny'n briodol. Bydd pwyslais arbennig yn cael ei roi ar gymesuredd, sefyllfa ariannol y ddau barti, cymhlethdod a phwysigrwydd yr achos.

(c) Pryd i wneud cais am drefniadaeth hwylus

Gall unrhyw barti wneud cais am drefniadaeth hwylus unrhyw adeg ar ôl cychwyn yr achos. Dylid gwneud cais o'r fath cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl, a fydd fel arfer yn y gynhadledd rheoli achos sy'n ofynnol dan Gyfarwyddyd Ymarfer 63 o fewn 14 diwrnod ar ôl cyflwyno'r amddiffyniad.

(d) Sut i wneud cais am drefniadaeth hwylus

I ddechrau, dylai unrhyw barti sy'n dymuno cael trefniadaeth hwylus wahodd y parti(on) eraill i gytuno, gan nodi'r camau y bwriedir eu dilyn mewn Gorchymyn drafft. Os bydd cytundeb, bydd y llys fel arfer yn gwneud y Gorchymyn ar gais ysgrifenedig wedi'i lofnodi ar ran bob parti. Dylai'r partïon gydlynu â'i gilydd a Swyddog Rhestru'r Siawnsri neu'r Llys Sirol Patentau ynghylch trefnu dyddiad ar gyfer treial.

Os na cheir cytundeb, rhaid i'r parti sydd am gael trefniadaeth hwylus wneud cais am hwn, gan nodi'r cyfarwyddiadau y bwriedir eu dilyn yn ei hysbysiad o gais a gofyn am ddyfarnu'r cais ar bapur. Dylid cael datganiad tyst yn gefn i'r cais a fydd yn rhoi'r sylw i'r meini prawf yn Rheol 1.1(2) Rheolau'r Drefniadaeth Sifil. Rhaid i'r parti sy'n gwrthwynebu, oni chaiff estyniad amser (drwy gydsyniad neu gan y llys) ymateb drwy wneud datganiad tyst a'i gyflwyno i'r parti sy'n gwrthwynebu o fewn 10 diwrnod i gyflwyno'r hysbysiad o gais iddo.

Bydd y llys yn penderfynu dros dro ar y mater ar bapur yn unig ac yn gwneud dyfarniad a gorchymyn dros dro yn unol â hynny. Oni fydd y naill ochr na'r llall yn gofyn am wrandawiad llafar, daw'r gorchymyn dros dro i rym 7 niwrnod ar ôl ei gyflwyno i'r partïon.

Os bydd parti am gael gwrandawiad llafar, rhaid iddo, o fewn 7 niwrnod i gyflwyno'r gorchymyn dros dro iddo, ofyn am wrandawiad llafar yn ddi-oed drwy gysylltu â Swyddog Rhestru'r Siawnsri. Trefnir gwrandawiad llafar o'r fath cyn gynted ag y bo modd, naill ai ar ffurf gwrandawiad dros y ffôn neu gais byr.

(e) Dyletswydd i hysbysu cleientiaid

Rhaid i ymgynghorwyr cyfreithiol y partïon ddwyn sylw eu cleientiaid at y ffaith fod trefniadaeth hwylus ar gael yn y Llys Patentau a'r Llys Sirol Patentau.

^Brig

11. Amserlen ar gyfer treial, Canllaw Darllen, Amcangyfrifon Amser, gwybodaeth gyffredinol arferol

Tynnir sylw at Gyfarwyddyd Ymarfer 63.7. Yn ogystal, dylai'r partïon geisio llunio dogfen gyfansawdd yn nodi'r materion sy'n cael eu honni er mwyn ffurfio rhan o'r wybodaeth gyffredinol arferol ac, os ydynt yn anghytuno, beth yw'r anghytundeb.

12. Cyfyngu ar y Materion

Cyn gynted â phosibl, dylai'r derbyniwr patent nodi pa rannau o'i batent yr haerir bod iddynt ddilysrwydd annibynnol a pha rannau o'r patent yr haerir eu bod wedi cael eu torri a dylid rhoi rhestr o'r haeriadau hynny i'r parti arall.

Dylid cadw golwg gyson ar y sefyllfa hon. Os oes unrhyw newid yn nifer y rhannau y dywedir bod iddynt ddilysrwydd annibynnol rhaid i'r derbyniwr patent hysbysu'r partïon eraill yn syth.

13. Addefiadau

Gyda'r bwriad o gael gwared ar faterion amherthnasol yn gynnar, atgoffir ymarferwyr am y rheidrwydd i wneud addefiadau yn unol â RhTS Rheol 32.18 yn gynnar. Dylid ei wneud cyn gynted ag y bo modd, er engraifft, mewn amddiffyniad neu ateb. Felly mewn amddiffyniad gall parti addef i'r gweithredoedd y cwynwyd yn eu cylch neu fod rhai o nodweddion hawliad yn perthyn i'r erthygl/broses. Mewn ymateb, efallai y gall derbyniwr patent addef bod y dogfennau a ddyfynnwyd wedi'u cyhoeddi'n flaenorol.

Dylai'r partïon hefyd ystyried gwneud cais i nodi pwyntiau nad oes anghydfod yn eu cylch. Yn dechnegol, efallai y bydd cais yn gofyn am addefiadau yng nghyswllt elfennau o hawliad yn cynnwys cwestiwn ffeithiol a chyfreithiol cymysg fel nad ydyw felly'n dod o dan y rheolau ar addefiadau. Trwy ofyn a yw'r diffynnydd yn anghytuno neu beidio bod ei erthygl/broses yn cynnwys rhai o nodweddion yr hawliad, gellir cyfyngu ar y gwir anghydfod. Felly bydd cwmpas y dadleniad, a datganiadau tystion a'r arbenigwyr yn cael ei gyfyngu.

^Brig

14. Dadleuon Fframwaith, Cyn-treial ac ar ôl y Dystiolaeth

Yn ogystal â'r Canllaw Darllen dylai'r partïon gyflwyno dadleuon fframwaith fel bo'r Barnwr yn gallu'u darllen cyn y treial. Fel arfer dylai hynny fod o leiaf dau ddiwrnod cyn i'r treial gychwyn, ond gydag achosion mawr, efallai y bydd angen mwy o amser (i'w drafod gyda chlerc y Barnwr perthnasol). Mae'n ddymunol i bob parti grynhoi'r hyn y mae'n haeru yw gwybodaeth gyffredinol gyffredin y sawl sy'n fedrus yn y maes.

Yn dilyn y dystiolaeth mewn treial sylweddol, efallai y caniateir gohiriad byr er mwyn i'r partïon grynhoi'u dadleuon ar bapur cyn dadl lafar.

Mewn treialon lle mae trawsgrif o'r dystiolaeth yn cael ei wneud a'i roi i'r Barnwr, dylid cael fersiwn ar ddisg i'w roi yr un pryd.

15. Awdurdodaeth Meistri

Awdurdodaeth gyfyngedig yn unig sydd gan Feistri mewn materion patent (gweler CY 63.8). Yn gyffredinol, mae'n fwy hwylus i Farnwr wneud gorchmynion cydsynio (ar bapur neu mewn llys) hyd yn oed lle mae gan Feistr awdurdodaeth i wneud hynny.

Pan fydd Meistr yn gwneud gorchymyn cydsynio yn cau pen y mwdwl ar achos sydd wedi cael ei drefnu, rhaid i gynrychiolwyr yr holl bartïon hysbysu Swyddog Rhestru'r Siawnsri fod yr achos wedi'i setlo.

16. Gorchmynion y Cytunir Iddynt

Fel arfer mae'r llys yn fodlon gwneud gorchmynion cydsynio heb i'r partïon orfod mynychu. Dylid darparu drafft o'r gorchymyn y cytunir iddo a chydsyniad ysgrifenedig holl dwrneiod neu gwnselwyr y partïon i Swyddfa Rhestru'r Siawnsri. Os bydd drafft wedi'i newid gryn dipyn â llaw, bydd yn ddefnyddiol darparu disg o'r fersiwn heb ei newid yn unol â pharagraff 9.6 yr Arweiniad i Siawnsri. Onid yw'r Barnwr o'r farn bod angen gwrandawiad, bydd yn gwneud y gorchymyn yn ôl y telerau a gytunwyd drwy ei lofnodi â llythrennau cyntaf ei enw. Fe'i llunnir yn unol â hynny a'i anfon at y partïon.

^Brig

17. Ceisiadau dros y Ffôn

Ar gyfer materion byr (20 munud neu lai), bydd y Barnwyr Patent yn fodlon, onid yw'n fater o bwysigrwydd cyffredinol i'r cyhoedd, gwrando ar geisiadau drwy gynhadledd dros y ffôn yn unol â'r Cyfarwyddyd Ymarfer dan RhTS Rhan 23.

Mae'n bosibl recordio'r cais, ac os gofynnir i'r Llys Patentau ei recordio yn hytrach na BT (neu ddarparwr gwasanaeth arall), dylid gwneud trefniadau gyda Swyddog Rhestru'r Siawnsri. Ni fydd y recordiad yn cael ei drawsysgrifio. Cedwir y tâp gan glerc y barnwr sy'n gwrando ar y cais am chwe mis. Rhaid i'r partïon wneud trefniadau ar gyfer trawsysgrifio, os bydd angen gwneud hynny.

Dylid defnyddio'r drefn hon lle bydd yn arbed costau.

18. Barnwyr Patent sy'n gallu ac sy'n fodlon eistedd y tu allan i Lundain

Os yw'r partïon yn dymuno hynny, er mwyn arbed amser neu gostau, gall y Llys Patentau eistedd y tu allan i Lundain. Cyn cysylltu â Swyddog Rhestru'r Siawnsri, dylai'r partïon drafod ymysg ei gilydd a ydynt am ddilyn trywydd o'r fath. Os bydd anghydfod ynghylch y lleoliad, bydd y llys yn datrys y mater ar gais. Os nad oes anghydfod, dylid cysylltu â Swyddog Rhestru'r Siawnsri cyn gynted â phosibl er mwyn gallu gwneud trefniadau gryn amser cyn dyddiad y gwrandawiad arfaethedig. Efallai y gall y Llys Sirol Patentau eistedd y tu allan i Lundain hefyd.

19. Pwyllgor Eiddo Deallusol Defnyddwyr y Llys

Mae hwn yn ystyried problemau a phryderon cyfreitha eiddo deallusol yn gyffredinol. Mae aelodau'r pwyllgor yn cynnwys y prif Farnwyr Patentau, Barnwr y Llys Sirol Patentau, cynrychiolydd o Gymdeithas y Bar - Patentau, Cymdeithas Twrneiod Eiddo Deallusol, Sefydliad Siartredig yr Asiantau Patent, Sefydliad yr Asiantau Nodau Masnach a Ffederasiwn Patentau, Dyluniadau a Nodau Masnach. Bydd hefyd yn cynnwys un neu nwy o Farnwyr Siawnsri eraill. Gwahoddir unrhyw un â barn yngylch sut y gellir gwella cyfreitha ym maes eiddo deallusol i gyflwyno'u safbwyntiau i'r pwyllgor, drwy'r cynrychiolydd proffesiynol perthnasol ar y pwyllgor os oes modd. Mae gan y Llys Sirol Patentau Bwyllgor Defnyddwyr hefyd.

^Brig

20. Gorchmynion yn dilyn dyfarniad

Pan ddarperir dyfarniad ar ffurf drafft cyn ei roi yn y llys agored dylai'r partïon, cyn yr achlysur hwnnw, gyfnewid drafftiau o'r gorchymyn canlyniadol a geisir. Nid yw'n ddymunol o gwbl i un parti gyflwyno cynnig i'r llall am y tro cyntaf pan roddir y dyfarniad. Os yw'r partïon yn cytuno ar y gorchymyn canlyniadol ac wedi cyflwyno copi ohono wedi'i lofnodi gan bob parti neu eu cynrychiolwyr, nid oes rhaid iddynt fod yn bresennol pan gyflwynir y dyfarniad.

21. Ceisiadau am rwymedïau interim: dyddiadau treial

Pan wneir cais am rwymedi interim, dylai'r hawlydd, lle bo hynny'n ymarferol, ymchwilio ymlaen llaw i amcan hyd y treial a dyddiadau treial posibl.

22. Cofnod o orchymyn enghreifftiol ar gyfer cyfarwyddiadau

Mae'r ffurflen gyffredinol - cofnod o orchymyn ar gyfer cyfarwyddiadau - sydd wedi'i hatodi i'r cyfarwyddyd ymarfer hwn wedi'i chymeradwyo gan y Barnwyr Patentau. Fe'i bwriedir fel canllaw yn unig ac efallai y bydd angen ei haddasu ar gyfer amgylchiadau penodol.

Atodiad - Ffurflen safonol gorchymyn ar gyfer cyfarwyddiadau

(* mae'n nodi darpariaeth a all fod yn ofynnol pan na chydymffurfiwyd â rheol, er enghraifft, dadleniad safonol yn unol â'r Cyfarwyddyd Ymarfer sy'n ategu RhTS Rhan 63.)

[Cronicliadau fel bo angen]

Trosglwyddo

1. [Bod yr Achos hwn a'r Gwrth-hawliad yn cael eu trosglwyddo i'r Llys Sirol Patentau.] (Os gwneir y gorchymyn hwn, fel arfer ni fydd yn rhaid gwneud Gorchymyn arall, ond yn gyffredinol bydd yn ddymunol gwneud gorchmynion trefniadol ar yr adeg yma i arbed costau cynhadledd arall yn y Llys Sirol.)

^Brig

Prawf Dogfennau

2. Gellir defnyddio copïau darllenadwy o fanyleb y Patent yn yr achos [ac unrhyw fanylebau patent neu ddogfennau eraill a ddyfynnwyd ym Manylion y Gwrthwynebiadau] yn y treial heb ragor o brawf o hynny nac o'u cynnwys.

Newidiadau i'r Plediadau

3. Mae hawl gan yr Hawlwyr i newid eu Ffurflen Hawlio a ddangosir mewn coch ar y copi [wedi'i hatodi i'r Hysbysiad o Gais/fel y'i llofnodwyd gan dwrneiod y partïon/ a atodir yma] [a'i hailgyflwyno ar neu cyn [dyddiad]/ac nad oes rhaid ei hailgyflwyno] ac mae gan y Diffynyddion hawl i gyflwyno Amddiffyniad wed'i newid yn ganlyniadol o fewn [rhif] diwrnod [ar ôl hynny/ar ôl hyn] ac mae gan yr Hawlwyr hawl i gyflwyno Ateb wedi'i newid yn ganlyniadol (os cynghorir hwy i wneud hynny) o fewn [rhif] diwrnod wedi hynny.

4.(a) Mae hawl gan y Diffynyddion i newid eu Hamddiffyniad [a Hawliad Rhan 20 a Seiliau Annilysrwydd] a ddangosir mewn coch ar y copi [wedi'i atodi i'r Hysbysiad o Gais/fel y'i llofnodwyd gan dwrneiod y partïon/ a atodir yma] [a'i ailgyflwyno o fewn [rhif] diwrnod /ar neu cyn [dyddiad]] [ac nad oes rhaid ei ailgyflwyno] ac mae gan yr Hawlwyr hawl i gyflwyno Ateb wedi'i newid yn ganlyniadol [os cynghorir hwy i wneud hynny] o fewn [rhif] diwrnod wedi hynny.

(b) Bod yr Hawlwyr ar neu cyn [dyddiad] yn penderfynu a fyddant yn rhoi'r gorau i barhau â'r Hawliad hwn ac yn tynnu eu Hamddiffyniad i Hawliad Rhan 20 yn ôl ac yn cydsynio i Orchymyn ar gyfer diddymu Patent rhif .... ("y patent yn yr achos") AC OS bydd yr Hawlwyr yn penderfynu ar hynny ac yn rhoi rhybudd o hynny yn yr amser penodedig GORCHMYNNIR bod y patent yn yr achos yn cael ei ddiddymu [a'i fod yn cael ei gyfeirio at y Barnwr Costau i asesu costau'r Diffynyddion a'r Achos hwn a'r Seiliau Annilysrwydd hyd at a chan gynnwys [dyddiad] sef dyddiad cyflwyno Hawliad Rhan 20 a'r Seiliau Annilysrwydd (diwygiedig) hyd at ddyddiad y Gorchymyn hwn [ac eithrio bod y rhain wedi cynyddu yn sgil methiant y Diffynyddion ar y dechrau i gyflwyno'r Amddiffyniad a'r Seiliau Annilysrwydd ar eu ffurf diwygiedig], ac i asesu costau'r Hawlwyr yn yr Achos a'r Hawliad Rhan 20 hwn o [dyddiad] [yn gymaint â'u bod wedi cynyddu gan fethiant y Diffynyddion dywededig] A GORCHMYNNIR bod y Barnwr Costau dywededig yn gosod costau'r Diffynyddion a'r Hawlwyr pan gânt eu hasesu yn erbyn ei gilydd ac i gadarnhau i ba un ohonynt y mae angen talu'r gweddill ar ôl gwneud hynny.]/[Gorchymyn i dalu symiau a bennir gan y Llys ar asesiad diannod].

^Brig

Rhagor o Wybodaeth ac Esboniad

5. (a) Bod [yr Hawlwyr/y Diffynyddion] ar neu cyn [dyddiad] yn cyflwyno i'r [Diffynyddion/Hawlwyr] Ragor o Wybodaeth neu Esboniad o [nodwch y Datganiad o achos] yn unol â chais yr [Hawlwyr/Diffynyddion] drwy eu Cais a gyflwynwyd i'r [Diffynyddion/Hawlwyr] ar [dyddiad] [a/neu]

(b) Bod [yr Hawlwyr/y Diffynyddion] ar neu cyn [dyddiad] yn cyflwyno i'r [Diffynyddion/Hawlwyr] ymateb i'w Cais am Ragor o Wybodaeth neu Esboniad o [nodwch y Datganiad o achos] a gyflwynwyd i'r [Diffynyddion/Hawlwyr] ar [dyddiad].

Addefiadau*

6. Bod [yr Hawlwyr/y Diffynyddion] ar neu cyn [dyddiad] yn datgan ar bapur a ydynt yn addef neu beidio y ffeithiau a bennir yn Rhybudd [y Diffynyddion/yr Hawlwyr] i Addef ffeithiau dyddiedig [dyddiad].

Darparu sicrwydd

7. Bod yr Hawlwyr yn darparu sicrwydd ar gyfer costau'r Diffynyddion i'r swm o £[nodwch y swm] drwy [nodwch y dull o ddarparu diogelwch] a bod unrhyw achosion eraill yn cael eu gohirio yn y cyfamser.

Rhestrau o Ddogfennau*

8. (a) Bod yr Hawlwyr a'r Diffynyddion ar neu cyn [nodwch y dyddiad] yn gwneud a chyflwyno ar y naill a'r llall yn unol â ffurflen N265 restr o'r dogfennau dan eu rheolaeth y mae'n ofynnol iddynt eu dadlennu yn unol â'r rhwymedigaeth dadlennu safonol yn unol â RhTS Rhan 31 fel y'i haddaswyd gan baragraff 5 y Cyfarwyddyd Ymarfer - Patentau etc. sy'n ategu RhTS Rhan 63.

(b) Parthed y materion hynny a bennir yn Atodlen [rhif] yma, cyfyngir y dadlennu i'r [dogfennau/categorïau dogfennau] hynny a restrir yn Atodlen [rhif].

^Brig

Archwilio*

9. Os bydd unrhyw barti am archwilio dogfennau sydd dan reolaeth parti arall neu am gael copïau o'r cyfryw ddogfennau dylai hysbysu'r parti hwnnw ar bapur ei fod am wneud hynny a rhaid caniatáu archwiliad o'r fath bob tro sy'n rhesymol ar ôl cael rhybudd rhesymol a dylid darparu unrhyw gopïau o fewn [rhif] diwrnod gwaith i'r cais ar yr amod bod y parti sy'n gwneud y cais am y copïau yn talu'r costau copïo rhesymol.

Arbrofion*

10. (a) Pan fydd parti am sefydlu ffaith drwy brawf arbrofol, yn cynnwys arbrawf a gynhelir at ddibenion cyfreitha neu fel arall arbrawf nas cynhelir yng nghwrs arferol ymchwil, bydd y parti hwnnw ar neu cyn [dyddiad] yn cyflwyno rhybudd i'r holl bartïon eraill yn nodi'r ffeithiau y mae am eu sefydlu ac yn rhoi manylion llawn yr arbrofion a argymhellir ar gyfer eu sefydlu.

(b) Bydd parti y cyflwynir rhybudd iddo dan yr is-baragraff blaenorol o fewn [rhif] diwrnod, yn cyflwyno i'r parti sy'n cyflwyno'r rhybudd rybudd yn nodi yng nghyswllt pob ffaith a yw'r parti hwnnw yn eu haddef neu beidio.

(c) Pan nad addefir ffaith y mae parti am ei sefydlu drwy brawf arbrofol, rhaid i'r parti hwnnw wneud cais i'r Llys am ragor o gyfarwyddiadau parthed arbrofion o'r fath.
[Neu lle cydymffurfiwyd â pharagraff 9 y Cyfarwyddyd Ymarfer - Patentau etc. sy'n ategu RhTS Rhan 63.]

11. (a) Rhaid i'r Hawlwyr/Diffynyddion roi cyfle i'r partïon eraill, os gwneir cais, arolygu'r gwaith o ailadrodd yr arbrofion a nodir ym mharagraffau [noder] y Rhybudd[ion] o Arbrofion a gyflwynwyd ar [dyddiad]. Rhaid gofyn am arolygiad o'r fath o fewn [rhif] diwrnod i ddyddiad y Gorchymyn hwn ac fe'i cynhelir o fewn [rhif] diwrnod i ddyddiad y cais.

b) Os bydd unrhyw barti am sefydlu unrhyw ffaith mewn ymateb i'r prawf arbrofol, bydd rhaid i'r parti hwnnw ar neu cyn [dyddiad] gyflwyno i bob parti arall rybudd yn nodi'r ffeithiau y mae am eu sefydlu gan roi manylion llawn yr arbrofion a argymhellir ar gyfer eu sefydlu.

(c) Rhaid i barti y cyflwynir rhybudd iddo dan yr is-baragraff flaenorol o fewn [rhif] diwrnod, gyflwyno i'r parti sy'n cyflwyno'r rhybudd rybudd yn nodi yng nghyswllt pob ffaith a yw'r parti hwnnw yn eu haddef neu beidio.

(d) Pan nad addefir ffaith y mae parti am ei sefydlu drwy brawf arbrofol mewn ymateb, gall y parti hwnnw wneud cais i'r Llys am ragor o gyfarwyddiadau parthed arbrofion o'r fath.

Rhybudd o Fodelau, ayb.

12. (a) Os bydd unrhyw barti yn nhreial yr achos hwn am ddibynnu ar fodel, cyfarpar, darlun, ffotograff, ffilm fideo neu sinematograff pa un a ydynt wedi'u cynnwys mewn datganiad tyst, affidafid neu adroddiad arbenigwr neu beidio, rhaid i'r parti hwnnw ar neu cyn [dyddiad] roi rhybudd o hynny i bob parti arall; rhaid rhoi cyfle i'r partïon eraill o fewn [rhif] diwrnod i gyflwyno'r cyfryw rybudd eu harchwilio a rhaid iddynt, os gofynnir am hynny, roi copïau i'r parti arall o unrhyw ddarlun neu ffotograff o'r fath a darlun, ffotograff neu ddarluniad arall digonol o unrhyw fodel neu gyfarpar.

(b) Os bydd unrhyw barti am ddibynnu ar unrhyw ddefnyddiau o'r fath mewn ymateb i unrhyw fater y rhoddwyd rhybudd ohono dan is-baragraff (a) o'r paragraff hwn, rhaid i'r parti hwnnw o fewn [rhif] diwrnod i'r archwiliad olaf gael ei wneud yn unol â'r is-baragraff dywededig (a) roi i'r partïon erall rybudd tebyg, ac os gofynnir amdano o fewn [rhif] diwrnod i gyflwyno rhybudd o'r fath rhaid iddo roi'r un cyfle i archwilio a fydd yn digwydd o fewn [rhif] diwrnod i gais o'r fath, a bydd yn yr un modd yn darparu copïau o unrhyw ddarlun neu ffotograff a lluniad o unrhyw fodel neu gyfarpar o'r fath.

(c) Ni cheir dibynnu ar unrhyw fodel, cyfarpar, darlun, ffotograff, ffilm fideo neu sinematograff arall fel tystiolaeth gan yr un parti ac eithrio gyda chaniatâd neu gydsyniad y Llys.

^Brig

Tystiolaeth Ysgrifenedig

13. (a) Gall bob parti alw hyd at [rhif] tyst arbenigol yn yr Achos a'r Hawliad Rhan 20 hwn gyhyd â bod y cyfryw barti:

(i) yn darparu enw'r cyfryw arbenigwr i'r partïon eraill ac i'r Llys ar neu cyn [dyddiad]; a

(ii) fan bellaf erbyn [dyddiad/[rhif] diwrnod cyn y dyddiad sydd wedi'i bennu ar gyfer yr Hawliad Rhan 20 ac Achos hwn] yn cyflwyno i'r partïon eraill adroddiad pob un o'r cyfryw arbenigwyr sy'n cynnwys y dystiolaeth y mae'r arbenigwr hwnnw'n bwriadu ei rhoi yn y treial.

(b) Rhaid i bob parti ar neu cyn [dyddiad] gyflwyno i'r partïon eraill ddatganiadau ysgrifenedig [llofnodedig] o'r dystiolaeth lafar y mae'r parti'n bwriadu ei defnyddio gydag unrhyw bynciau o ffaith sydd i'w penderfynu yn y treial, gyda datganiadau o'r fath i sefyll fel tystiolaeth flaenaf y tyst oni fydd y Llys yn cyfarwyddo fel arall;

(c) Rhaid i'r partïon [yma nodwch y cyfarwyddiadau penodol y maent yn eu ceisio, e.e. o fewn 21 diwrnod i adroddiadau arbenigol a datganiadau ysgrifenedig y parti arall gyflwyno nodi ar bapur y ffeithiau a'r materion yn yr adroddiadau a'r datganiadau hynny sy'n cael eu haddef].

Derbynioldeb y Dystiolaeth

14. Rhaid i barti sy'n gwrthwynebu i unrhyw ddatganiadau gan unrhyw dystion gael eu darllen gan y Barnwr cyn gwrandawiad y treial, gyflwyno i bob parti arall rybudd ysgrifenedig ynghylch hynny yn nodi sail y gwrthwynebiad.

Diffyg Cydymffurfio

15. Os bydd unrhyw barti'n peidio â chydymffurfio â'r cyfarwyddiadau o ran arbrofion a thystiolaeth ysgrifenedig ni chaiff ddangos tystiolaeth y mae'r cyfryw gyfarwyddiadau'n berthnasol iddi heb ganiatâd y Llys.

Bwndeli Treial

16. O leiaf [rhif] diwrnod cyn dyddiad y treial ar gyfer yr Achos a'r Gwrth-hawliad hwn, rhaid i bob parti gyflwyno i'r partïon restr o'r holl ddogfennau i'w cynnwys yn y bwndeli treial. Rhaid i'r Hawlwyr o leiaf [rhif] diwrnod cyn dyddiad y treial gyflwyno i'r Diffynyddion .... set o fwndeli i'w defnyddio yn y treial.

Treial

17. Bydd treial yr achos hwn gerbron Barnwr Dynodedig ei hun yn [Llundain], amcangyfrifir y bydd yn para am [rhif] diwrnod ac amcangyfrifir y bydd angen [rhif] diwrnod ar y Barnwr ar gyfer darllen ymlaen llaw.

Rhyddid i Wneud Cais

18. Mae gan y partïon ryddid i wneud cais am gyfarwyddiadau pellach ac yn gyffredinol drwy roi rhybudd o ddau ddiwrnod.

Costau

19. Mai costau'r Cais hwn fydd y costau yn yr Achos a'r Hawliad Rhan 20.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 20 April 2007 12:52. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .