Adran Proses Dramor
Adran Mainc y Frenhines, Adran Gweithredu, Uned Cefnogi Meistri a Phroses Dramor
Mae'r Adran Proses Dramor yn ymgymryd â gwaith dan ymrwymiadau rhyngwladol ar ran yr Uwch Feistr, sef awdurdod canolog Cymru a Lloegr, yn unol â'r canlynol:
- Cytundeb yr Hâg 15 Tachwedd 1965 ar Gyflwyno Dramor Ddogfennau Barnwrol ac Allfarnwrol mewn Materion Sifil neu Fasnachol
- Cytundeb yr Hâg 18 Mawrth 1970 ar Fynd â Thystiolaeth Dramor mewn Materion Sifil neu Fasnachol
- Rheoliad Cyngor (EC) Rhif 1348/2000 29 Mai 2000 ar Gyflwyno yn yr Aelod Wladwriaethau Ddogfennau Barnwrol ac Allfarnwrol mewn Materion Sifil neu Fasnachol.
Mae hefyd yn ymdrin â chymryd profion gwaed a ddaw o dramor sy'n ymwneud ag achosion Tadogaeth ac ar gyfer adroddiadau lles a ddaw o dramor sy'n ymwneud ag achosion Mabwysiadu.
Llywodraethir cyflwyno dogfennau i wledydd eraill, ac ohonynt, gan:
- Y Rheoliad Gwasanaeth Ewropeaidd
- Cytundeb yr Hâg
- A chytundebau dwyochrog.
Llywodraethir ceisiadau am gymryd tystiolaeth gan:
Mae gwahanol ofynion gan bob gwlad, felly cysylltwch â'r Adran Proses Dramor am fanylion pellach.
Adran Proses Dramor
Ystafell E10
Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL
DX 44450 Strand
Rhif ffôn: 020 7947 6691
Ffacs: 020 7947 6975
